Cerddoriaeth
Croesi Ffiniau: Cerddorfa WNO
Trosolwg
Iau 11 Gorffennaf 7.30pm
Lleoliad
Prisiau
Tocynnau £5-£20
Tocynnau: Tocynnau £5-£20
About
Smetana Bartered Bride Overture
Mozart Clarinet Concerto
Schumann Symphony No.4
Tomáš Hanus arweinydd
Thomas Verity clarniet
Taith ysbrydoledig trwy dapestri cerddorol cyfoethog Canol Ewrop.
Cymerwch sedd ac ymunwch â Cherddorfa WNO a Chyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO Tomáš Hanus wrth iddynt gychwyn ar daith gyffrous trwy rai o gampweithiau gorau Canol Ewrop, gan ddechrau gyda’r Agorawd fuddugoliaethus o The Bartered Bride gan Smetana. Gan ddathlu’r balchder cenedlgarol a ysgogodd yn Tsiecia yn y 19eg ganrif, mae’r darn yma’n llawn egni ac elfennau gwerin rythmig.
Yn teithio tua’r de i Awstria, mwynhewch telynegiaeth a deialog ddifyr Concerto i’r Clarinét mewn A Fwyaf Mozart.
I ddod â'r daith i ben, profiad ymdrwythol ym myd Rhamantiaeth yr Almaen. Mae Symffoni Rhif 4 Schumann yn un ddrama barhaus sy’n cynnwys cymalau dwys a myfyriol ac egni cynyddol, wedi’i drwytho â’r ‘Thema Clara’ enwog, er anrhydedd i’w wraig.