

Cerddoriaeth
Sinfonia Cymru gyda Julieth Lozano Rolong
Trosolwg
Sad 2 Mai 7.30pm
Lleoliad
Prisiau
£10 - £20
Tocynnau: £10 - £20
Gwybodaeth
Mae Sinfonia Cymru a’r soprano Julieth Lozano Rolong yn creu rhywbeth cwbl arbennig i deithio Cymru yn 2026, wrth i gerddoriaeth glasurol gwrdd â chalon egnïol America Ladin.
Mae Julieth ac ensemble unigryw o chwech o gerddorion Sinfonia Cymru – ffidil, trwmped, bas, clarinet, telyn, ac offerynnau taro – yn rhoi bywyd i gerddoriaeth na chaiff ei chlywed yn aml ar lwyfannau Cymru.
Gyda cherddoriaeth o’r Ariannin, Colombia, Ciwba, Mecsico, Periw a Venezuela, mae’r cyngerdd yn daith drwy America Ladin. O delynegiaeth gyfoethog María Grever i ddisgleirdeb rhythmig Esther Forero, mae pob cân y bydd Julieth yn ei pherfformio wedi’i chyfansoddi gan fenyw.
Mae Julieth – sy’n hanu o Golombia – yn estyn gwahoddiad i chi rannu yn y gerddoriaeth arbennig yma. Meddai:
“Mae hwn yn gyngerdd sy’n gobeithio atgoffa pobl bod cerddoriaeth yn fyd-eang. Rwy’n awyddus i ddod â melodïau a rhythmau o’m rhan i o’r byd i lwyfannau ym mhobman, ac atgoffa pobl eraill bod ein cerddoriaeth ni – yn enwedig gweithiau ein cyfansoddwyr benywaidd – yn hyfryd, ynllawn deilyngu cael ei pherfformio yn y ffordd orau bosib, ac o beidio â chael ei hanghofio.”
Er mwyn creu profiad cwbl unigryw ac arbennig, mae’r cyngerdd hefyd yn cynnwys barddoniaeth America Ladin, gyda Julieth yn eich arwain drwy dechnegau anadlu i greu cysylltiad dyfnach â’r gerddoriaeth. Ymunwch â ni ar gyfer un o’r cyngherddau mwyaf unigryw a hudolus a glywir yng Nghymru yn 2026.








