Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Cerddoriaeth

Band Mawr CBCDC: Celebrating Billie Holiday a Sarah Vaughan

Tocynnau: £11 - £22

Gwybodaeth

Band Mawr CBCDC yn camu i’r llwyfan ac yn perfformio caneuon poblogaidd gan ddau o leisiau jazz mwyaf ysbrydoledig America yn yr ugeinfed ganrif – Billie ‘Lady Day’ Holiday a Brenhines y Bebop, Sarah Vaughan. Gyda’u harddulliau canu llawn enaid ac emosiwn, mae’r ddwy eicon yma wedi arwain y ffordd. Holiday gyda’i brawddegu lleisiol unigryw a greodd arddull swing anghyffredin, a Vaughan gyda’i byrfyfyrio sgat anhygoel a’i hystod lleisiol eang.

Mae’r cyngerdd yn dechrau gyda chyfeiriad at arwyr Village Vanguard, y trympedwr Thad Jones a’r drymiwr Mel Lewis, a gyfareddodd y byd jazz gyda sain swing ffres ac ymagwedd hollol newydd at y genre band mawr.

Digwyddiadau eraill cyn bo hir