Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Cwmni Richard Burton

NEWYDD '26: Van Man

Tocynnau: £7.50 - £15

Wrthi’n llwytho...

Gwybodaeth

Mae dyn yn gyrru ei fan i’r afon. Mae torf yn ymgynnull, mae amser yn ymledu, mae disgyrchiant yn llusgo. Mae gwylwyr yn ystyried beth i’w wneud cyn ei bod hi’n rhy hwyr. Mae’n amhosibl peidio â gwylio, amhosibl peidio â dadlau, amhosibl peidio â breuddwydio a chanu carioci hefyd. Stori am fregusrwydd bywyd gan y dramodydd o Brydain EV Crowe.

Gan EV Crowe

Cyfarwyddwr Stewart Laing

Yn sumud i'r New Diorama Theatre, Llundain 17 - 20 Meh

Cwmni Richard Burton

Mae cwmni theatr mewnol Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Cwmni Richard Burton, yn cynnwys actorion, rheolwyr llwyfan, cynllunwyr theatr a pherfformwyr theatr gerddorol sydd yn eu blwyddyn olaf o hyfforddiant yn y Coleg. Fel un o gwmnïau repertoire mwyaf toreithiog Cymru, mae’n ail-ddychmygu clasuron trwy lens fodern, ac yn cyflwyno drama gyfoes, ysgrifennu newydd a theatr gerddorol sy’n adlewyrchu cymdeithas heddiw. Gan lwyfannu niferus o gynyrchiadau bob blwyddyn i gynulleidfaoedd Caerdydd a Llundain, mae’n grymuso ei myfyrwyr fel artistiaid creadigol, gan weithio gyda rhai o wneuthurwyr theatr gorau’r DU ac arweinwyr y diwydiant gyda ffocws proffesiynol.

Digwyddiadau eraill cyn bo hir