Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Cwmni Richard Burton

NEWYDD '26: Feral Threads

Tocynnau: £7.50 - £15

Wrthi’n llwytho...

Gwybodaeth

Mewn sefydliad troseddwyr ifanc, mae Tate o fewn un diwrnod o gael ei drosglwyddo i garchar oedolion. Ar ei ddiwrnod olaf ond un, mae ef a’i gyd-garcharorion yn arddangos eu cwiltiau a wnaed â llaw pan fydd gwirioneddau claddedig yn dechrau ymddatod a ffrwydro. 

Mae’r ddrama newydd hon gan Rebecca Jade Hammond yn archwilio’r gwrthdrawiad rhwng gwrywdod gwenwynig a chanfyddiadau benyweidd-dra, er mwyn gofyn y cwestiwn amhosibl; a yw gwaredigaeth byth yn bosibl?

Gan Rebecca Jade Hammond

Cyfarwyddwr Patricia Logue

Yn sumud i'r New Diorama Theatre, Llundain 17 - 20 Meh

Cwmni Richard Burton

Mae cwmni theatr mewnol Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Cwmni Richard Burton, yn cynnwys actorion, rheolwyr llwyfan, cynllunwyr theatr a pherfformwyr theatr gerddorol sydd yn eu blwyddyn olaf o hyfforddiant yn y Coleg. Fel un o gwmnïau repertoire mwyaf toreithiog Cymru, mae’n ail-ddychmygu clasuron trwy lens fodern, ac yn cyflwyno drama gyfoes, ysgrifennu newydd a theatr gerddorol sy’n adlewyrchu cymdeithas heddiw. Gan lwyfannu niferus o gynyrchiadau bob blwyddyn i gynulleidfaoedd Caerdydd a Llundain, mae’n grymuso ei myfyrwyr fel artistiaid creadigol, gan weithio gyda rhai o wneuthurwyr theatr gorau’r DU ac arweinwyr y diwydiant gyda ffocws proffesiynol.

Digwyddiadau eraill cyn bo hir