Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Cerddoriaeth

Cyfres Piano Llŷr Williams 2023-2025: Datganiad 5, gyda Maria Włoszczowska, feiolin

Tocynnau: £12-£24

Gwybodaeth

Mae dau yn gwmni da: yng nghymal olaf ond un ei gyfres “Archwilio Athrylith”, mae’r pianydd Llŷr Williams yn cael cwmni’r feiolinydd gwych o Wlad Pwyl, Maria Włoszczowska. Gyda’i gilydd, maent yn archwilio’r rhyfeddod arbennig sy’n digwydd pan fydd dau artist yn ymuno mewn gweledigaeth artistig ar y cyd - o ffraethineb a gras sonatâu feiolin Mozart i Sonata Feiolin olaf Schumann, rhamantiaeth bur ar ei thywyllaf a mwyaf angerddol.

MOZART

Violin Sonata No.27 yn G fwyaf, K.379

SCHUMANN

Humoreske yn B feddalnod fwyaf, Op.20

MOZART

Violin Sonata No.35 yn A fwyaf, K.526

SCHUMANN

Violin Sonata No.3 yn A leiaf, WoO.27

Digwyddiadau eraill cyn bo hir