
Zoran Dukić ac Aniello Desiderio: Cocktail List
Darllen mwy

Jazz
Gwe 30 Ion 7.30pm
£8.50 - £17
Tocynnau: £8.50 - £17
Mae’r sacsoffonydd a’r cyfansoddwr gwobrwyedig Julian Argüelles yn chwarae cymysgedd unigryw o jazz cyfoes Prydeinig cyffrous wedi’i drwytho â rhythmau Sbaenaidd, grŵfs De Affrica, band pres, a dylanwadau clasurol.
Mae’n ymuno â Cherddorfa Jazz CBCDC ar gyfer cyngerdd o ddathlu sy’n cynnwys ei gerddoriaeth wreiddiol wedi’i threfnu’n arbenigol ar gyfer y band, ynghyd ag amrywiaeth o gerddoriaeth sy’n bwysig iddo ef; yn enwedig cerddoriaeth Township De Affrica. Byddwch yn barod am gyfansoddiadau hardd, rhythm heintus ac ensemble pwerus.
Sacsoffon Julian Argüelles
Arweinydd Andrew Bain