
AmserJazzTime
Darllen mwy

Jazz
Tocynnau: £8.50-£17
Mae’r drymiwr gwych o Efrog Newydd, Jim Black, yn ymuno â dau o leisiau cerddorol mwyaf anturus Cymru, y pianydd Huw Warren a’r basydd Huw V Williams, a raddiodd o CBCDC, ynghyd â cherddorion jazz y Coleg. Bydd y cyngerdd yn cynnwys cyfansoddiadau gan y tri cherddor, gan fabwysiadu dull arbrofol bywiog a difyr sy’n cyfuno ysgrifennu telynegol, gwaith byrfyfyr rhydd a rhythmau anghonfensiynol.