Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Dawns

Andalucia - Flamenco

Tocynnau: £32

Gwybodaeth

Cwmni gwobrwyedig Daniel Martinez Flamenco yn cyflwyno ei ail gynhyrchiad hir-ddisgwyliedig Andalucia, cynhyrchiad fflamenco syfrdanol i gyfeiliant cerddorfa siambr.

Mae’r cyngerdd arbennig hwn yn gynrychiolaeth gerddorol o’r 8 rhanbarth sy’n rhan o gymuned ymreolaethol Andalucia yn Ne Sbaen, man geni’r fflamenco; Cordoba, Seville, Cadiz, Malaga, Jaen, Granada, Huelva ac Almeria. Mae gan bob rhanbarth ei wedd unigryw ei hun ar y llu o arddulliau amrywiol sy’n ffurfio fflamenco a bydd y rhain yn cael eu cyflwyno’n hyfryd i’r gynulleidfa drwy gyfrwng gitâr Daniel, gyda chyfeiliant amrywiaeth o gerddorion fflamenco, cantorion, ensemble cerddorfa siambr a dawns fflamenco.

Unigryw, Arloesol, Cyfareddol lle mae harddwch syfrdanol cerddoriaeth glasurol yn cwrdd ag angerdd a thân fflamenco. Profiad fflamenco na ddylid ei golli!

Digwyddiadau eraill cyn bo hir