Llyfryn â Disgrifiadau Sain
Gweler isod ein Llyfryn â Disgrifiadau Sain – Gwanwyn 2023.
Llyfryn Print Bras
Mae ein Llyfryn Print Bras ar gael i’w ddarllen neu i’w lwytho i lawr.
Gallwch darllen neu lwytho ein Llyfryn Print Bras Gwanwyn 2023 i lawr
Perfformiadau â Chapsiynau
Mae'r Perfformiadau â Chapsiynau ar gael ar gyfer y canlynol:
-
Macbeth, 11 Chwefror 7pm
-
The Welkin, 30 Mawrth 7.30pm
Tocynnau am Ddim i Ofalwyr
Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn rhan o gynllun cenedlaethol o’r enw Hynt, sy’n gweithio gyda theatrau a chanolfannau celfyddydau ledled Cymru i roi’r arferion gorau posibl i gwsmeriaid o ran hygyrchedd a pholisi tocynnau teg.
Mae gan ddeiliaid cardiau Hynt hawl i docyn am ddim (lle bo hynny’n bosibl) i gynorthwyydd personol neu ofalwr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Ewch i www.hynt.co.uk i gael rhagor o wybodaeth neu gysylltu â’n Swyddfa Docynnau.
Cadeiriau olwyn
Mae pob un o’n mannau perfformio yn hygyrch i gadeiriau olwyn. Mae gennym nifer cyfyngedig o lefydd pwrpasol ar gyfer cadeiriau olwyn a chynorthwywyr/gofalwyr; gellir archebu’r rhain dros y ffôn neu wyneb yn wyneb yn y Swyddfa Docynnau.
Dolenni Sain Clyw
Mae Dolenni Sain Clyw ar gael. Siaradwch â’n Swyddfa Docynnau i gael rhagor o wybodaeth.
Cŵn Tywys
Mae croeso i gŵn tywys a chŵn cymorth.
Newid babanod
Mae cyfleusterau newid babanod ar gael.
Anghenion ychwanegol
Os oes gennych unrhyw anghenion ychwanegol neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am ein lleoliadau, cysylltwch â’n Swyddfa Docynnau ar 029 2039 1391.
Fe’ch cynghorir i roi gwybod i’r Swyddfa Docynnau wrth archebu os oes gennych chi neu’ch cyfeillion unrhyw ofynion mynediad.