Neidio i’r prif gynnwys

Bar y Caffi

Yn ein Cyntedd Carne godidog, gyda golygfeydd gwych dros Barc Bute, mae ein bar caffi yn lle gwych i fwynhau awyrgylch creadigol y Coleg – os ydych yn cwrdd â ffrindiau, yn mwynhau ein cyngherddau cerddoriaeth am ddim yn y cyntedd neu’n cymryd rhan mewn sioe.

Gwybodaeth am ein cynnig arlwyo


P’un a ydych chi’n chwilio am luniaeth sydyn yn ein hadeilad hardd neu am brofiad ciniawa llawn gyda’r nos, gallwch ddisgwyl safon uchel gan ein harlwywyr mewnol, sydd yn cael llawer o ganmoliaeth yn gyson am eu lluniaeth ysgafn, eu ciniawau, eu derbyniadau â diodydd a’u ciniawau mawreddog ffurfiol gyda’r nos.

Ein bwydlenni

Am ein tîm arlwyo

Mae ein cogyddion talentog wedi creu amrywiaeth eang o fwydlenni lluniaeth a diodydd sy'n dathlu blasau o Gymru a'r byd.

Boed yn fwyd bys a bawd ar gyfer eich cyfarfod, bwffe poeth, gwledd goeth, diodydd a canapés ar gyfer derbyniad neu farbeciw haf, gallwn gynnig rhywbeth at ddant pawb, ac ar gyfer gofynion cyllidebol a deietegol amrywiol.

Rydym yn falch o weithio gyda chynhyrchwyr o Gymru a chyflenwyr Masnach Deg i leihau ein hôl troed carbon.

Bwyd a diod bendigedig


Archwilio’r adran

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf