Neidio i’r prif gynnwys

Ffioedd ac ariannu

Rhagor o wybodaeth am ffioedd  dysgu a'r cymorth ariannol sydd ar gael i chi.

Ffioedd dysgu


Mae'r ffioedd dysgu ar gyfer pob cwrs i'w gweld ar dudalennau unigol y cyrsiau.

Mae'r ffioedd a nodir ar gyfer un flwyddyn academaidd ac maent yn destun cynnydd blynyddol.

Cyllid ar gyfer myfyrwyr israddedig

Sylwer nad yw’r trefniadau ariannu ar gyfer myfyrwyr sy’n dechrau ym mis Medi 2024 wedi’u cadarnhau hyd yma. Mae’r canllawiau isod yn seiliedig ar y wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd a gallai newid.

Bydd y ffordd rydych chi’n cyflwyno cais am gyllid myfyrwyr a’r arian sydd ar gael i chi yn dibynnu ar ble rydych chi’n byw.

Cyllid ar gyfer Myfyrwyr Ôl-raddedig

Mae sicrhau cyllid yn ystyriaeth bwysig ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig ac rydym yn eich annog i ddechrau chwilio am gymorth ariannol cyn gynted â phosib.

Ysgoloriaethau

Mae modd gwneud cais am nifer o ysgoloriaethau, sydd ar gael drwy haelioni cyllidwyr a phartneriaid y Coleg, unwaith y bydd cynnig wedi'i wneud i chi. Bydd rhagor o wybodaeth  yn cael ei hanfon i chi, gan gynnwys gwybodaeth am gymhwysedd, ar ôl i chi gael cynnig.

Rydym yn falch iawn o fod wedi partneru â Bad Wolf ac S4C yn ddiweddar. Mae’r ddau gwmni’n cefnogi ein hymdrechion i gynyddu amrywiaeth cymuned myfyrwyr CBCDC trwy ariannu ysgoloriaethau.

Cewch wybod mwy ar ein tudalen ynghylch cymorth ariannol.


Archwilio’r adran