Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

MA Actio ar gyfer y Llwyfan, Sgrin a Radio

  • Dyfarniad:

    MA Actio ar gyfer y Llwyfan, Sgrin a Radio

  • Corff dyfarnu:

    Prifysgol De Cymru

  • Lleoliad astudio:

    Caerdydd (CBCDC, Stiwdios Llanisien a’r Hen Lyfrgell)

  • Dyddiad dechrau:

    22 Medi 2024

  • Hyd:

    13 mis llawn amser

  • Cod y cwrs:

    704F - UCAS Conservatoires

Cyflwyniad


Cewch lansio eich gyrfa actio drwy hyfforddiant dwys dan arweiniad arbenigwyr a hyfforddiant ymarferol mewn stiwdio a rihyrsal mewn amgylchedd gwaith proffesiynol.

Trosolwg o’r cwrs

Gyda’n cwrs meistr mewn actio, byddwch yn datblygu’r rhinweddau greddfol, deallusol ac empathig sy’n eich gyrru i berfformio ar y lefelau uchaf o arferion artistig. 

Mae ein cwrs yn pontio’r bwlch rhwng gradd mewn pynciau eraill – neu brofiad actio blaenorol – a’r safon a ddisgwylir gan y diwydiannau theatr, teledu, ffilm a’r cyfryngau a recordiwyd. 

Mae hyfforddiant ymarferol mewn stiwdio ac ymarfer gydag ymarferwyr profiadol wrth galon y rhaglen hon, a fydd yn cael ei gefnogi gan gyfleoedd rheolaidd i weithio gydag actorion a chyfarwyddwyr sy’n ymweld.  

Bydd gennych gyfuniad o ddulliau actio craidd, dosbarthiadau sgiliau corfforol a lleisiol, a byddwch wedyn yn eu harchwilio ac yn eu rhoi ar waith mewn prosiectau ar berfformiad naturiolaidd ac uwch o ran testun, sain a sgrin.

Byddwch wedyn yn ymgymryd â rolau mewn perfformiadau cyhoeddus dan gyfarwyddyd proffesiynol a ddewisir o repertoire eang a heriol, gan ymuno â’n hactorion eraill, rheolwyr llwyfan, myfyrwyr dylunio a theatr dechnegol fel aelod o Gwmni Richard Burton. A thrwy eich ymchwil, eich cynhyrchiad a’ch perfformiad eich hun mewn prosiect unigol, byddwch yn magu’r hyder i greu gwaith gwreiddiol ar gyfer cynulleidfa gyhoeddus. 

Mae dosbarthiadau ar sicrhau a chynnal gwaith gyda chyfarwyddwyr ac asiantau castio proffesiynol yn arwain at ymuno â’n hactorion eraill mewn arddangosiadau i gynulleidfaoedd gwadd o asiantau, cyfarwyddwyr castio a darpar gyflogwyr yng Nghaerdydd, y West End yn Llundain ac Efrog Newydd (ar gyfer myfyrwyr o America). 

Pam astudio’r cwrs hwn?

  • Bydd eich datblygiad yn cael ei arwain gan dîm addysgu sy’n cynnwys ymarferwyr enwog (yn fewnol ac sy'n ymweld), gan gynnwys cyfarwyddwyr ac actorion, o bob rhan o’r diwydiant. Maent yn eich mentora yn ogystal â chynnig cyfleoedd rhwydweithio ac addysg o’r radd flaenaf hefyd.
  • Nid yw’r cwrs hwn yn cyd-fynd ag un athroniaeth o hyfforddi actor yn unig – yn hytrach, rydyn ni’n dod â llawer o ddylanwadau i’ch gwaith, er mwyn i chi allu gwneud dewisiadau gwybodus am y gwahanol ddulliau o actio sy’n defnyddio ac yn ymestyn eich cryfderau personol.
  • Byddwch yn ymuno â’n hactorion trydedd flwyddyn ac yn cydweithio â myfyrwyr eraill o bob rhan o ddrama a cherddoriaeth fel rhan o Gwmni Richard Burton. Yma, byddwch yn profi eich hyfforddiant ac yn profi gofynion trylwyr amgylchedd y theatr broffesiynol mewn dau gynhyrchiad llawn, gan roi syniad go iawn o sut beth yw gweithio yn y diwydiant.
  • Bydd yr ail o’r cynyrchiadau hynny yn ein tymor theatr NEWYDD blaenllaw, lle byddwch yn cymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu pedair drama wedi’u comisiynu’n arbennig a fydd yn cael eu perfformio yng Nghaerdydd a Llundain.
  • Byddwch yn cael eich mentora a’ch cefnogi i gychwyn, cynhyrchu a pherfformio darn gwreiddiol o waith – sgiliau sy’n amhrisiadwy yn ein barn ni ar gyfer datblygu gyrfa portffolio gynaliadwy wrth actio.
  • Bydd eich carfan yn perfformio mewn arddangosiadau actorion yng Nghaerdydd, y West End yn Llundain, ac Efrog Newydd (ar gyfer y rheini sy’n gymwys i weithio yn yr Unol Daleithiau), gyda chyfarwyddwyr castio, asiantau a chyflogwyr yn y diwydiant yn bresennol. Ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol eraill, byddant hefyd yn cynnal dosbarthiadau meistr a gweithdai, yn ogystal â chynnig cyfleoedd i gynnal clyweliadau.
  • Mae eich hyfforddiant yn cwmpasu amrywiaeth o ddulliau a thechnegau sy’n datblygu eich stamina, eich sgiliau a’ch empathi – bydd gennych chi weithdai sgiliau actio craidd sy’n edrych ar strategaethau ar gyfer gweithio gyda thestunau, creu cymeriad, byrfyfyrio a pherfformio Shakespeare.
  • Ac yn eich dosbarthiadau sgiliau lleisiol, byddwch yn canolbwyntio ar dechnegau corfforol effeithiol ar gyfer perfformio, yn ogystal â ffisioleg lleisiol, tafodieithoedd ac acenion. Byddwch hefyd yn cael gwersi arbenigol mewn canu, repertoire a pherfformio theatr gerddorol.
  • Byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o wersi sy’n edrych ar dechnegau a gofynion ar gyfer actio ar y sgrin.
  • Mae maint ein dosbarthiadau yn fach – 12 myfyriwr fel arfer – sy’n caniatáu i diwtoriaid ganolbwyntio'n iawn ar eich sgiliau a’ch datblygiad unigol. Byddwn yn dod i’ch adnabod yn dda ac yn gallu addasu i’ch anghenion. 
  • Er mwyn gwella eich cyflogadwyedd, bydd gennych chi weithdai ymarferol sy’n eich cyfeirio at y diwydiannau theatr, teledu a drama, gan gynnwys gweithio gydag amrywiaeth o weithwyr proffesiynol o’r diwydiannau cynhyrchu a chastio i fireinio eich techneg cyfweld a chlyweld a darparu cyfleoedd i rwydweithio.

Tysteb

Roedd CBCDC yn ysgol ddelfrydol ar gyfer yr hyfforddiant hwnnw, ond hefyd i mi fel unigolyn. Mae wedi rhoi’r grym i mi fod yn actor cyflawn. Mae’n swydd mor amlweddog a’r hyn a wna’r Coleg mor wych yw eich trochi chi’n llwyr yn y cyfan. Mae cymaint o arbenigeddau yno, sy’n amrywio o radio i’r sgrin a phopeth yn y canol.
Callum Scott HowellsActor

Gwybodaeth arall am y cwrs

Gŵyl flynyddol ysgrifennu newydd CBCDC

Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf

Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau

Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/privacy

Blwyddyn mynediad:
Rhanbarth:

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf