Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

BA (Anrh) Rheoli Llwyfan a Theatr Dechnegol

  • Dyfarniad:

    BA (Anrh) Rheoli Llwyfan a Theatr Dechnegol

  • Corff dyfarnu:

    Prifysgol De Cymru

  • Lleoliad astudio:

    Caerdydd (CBCDC, Stiwdios Llanisien a’r Hen Lyfrgell)

  • Dyddiad dechrau:

    22 Medi 2024

  • Hyd:

    3 blynedd llawn amser

  • Cod y cwrs:

    W450 – UCAS

Cyflwyniad


Cyfle i gael profiad ymarferol mewn 11 rôl gynhyrchu yn ein hyfforddiant arbenigol sy’n arwain at amrywiaeth eang o lwybrau gyrfa yn y diwydiant adloniant.

Trosolwg o’r cwrs

Mae’r rhaglen arbenigol hon yn cynnig hyfforddiant ymarferol i chi mewn rheoli llwyfan, crefft llwyfan, theatr dechnegol, cynhyrchu digwyddiadau a rheoli digwyddiadau.

Mae’n rhoi cyfleoedd i chi gael profiad ymarferol o amrywiaeth o rolau cynhyrchu mewn amgylchedd gweithio sy’n adlewyrchu cyn agosed â phosibl amgylchedd theatr broffesiynol a’i diwydiannau cysylltiedig.

Byddwch yn dechrau drwy ddysgu’r holl sgiliau craidd sydd eu hangen arnoch i weithio ar gynyrchiadau. Mae hyfforddiant rheoli llwyfan - sy’n ymwneud â threfnu a chydlynu perfformiad byw - yn cynnwys cyfres o sesiynau ymarferol. Bydd y rhain yn eich helpu i ddysgu a deall mwy am rolau rheolwr llwyfan cynorthwyol ac is-reolwr llwyfan ac mae’n cynnwys prosiectau creu a chanfod propiau.

Bydd eich sesiynau crefft llwyfan yn archwilio’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i farcio ystafelloedd a llwyfannau ymarfer, adeiladu a gosod golygfeydd sylfaenol a gweithio peiriannau llwyfan fel systemau hedfan gwrthbwysau a rhaffau. Byddwch hefyd yn cael gwybodaeth dechnegol am systemau goleuo, sain, fideo a thrydanol. Mae hyfforddiant iechyd a diogelwch yn rhan greiddiol o’r cwrs cyfan hefyd.

Ond defnyddio eich sgiliau mewn amrywiaeth o brofiadau go iawn yw sylfaen eich hyfforddiant. Drwy gydol eich cwrs, byddwch yn cymryd rhan mewn 11 lleoliad cynhyrchu - gyda Chwmni Richard Burton, ein cwmni theatr mewnol, yn bennaf. Fodd bynnag, gallai tri o’r rhain fod gyda chwmnïau cynhyrchu theatr proffesiynol yn y DU.

Darganfyddwch fwy...

Mae capsiynau ar gyfer y fideo hwn ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

Pam astudio’r cwrs hwn?

  • Byddwch yn cael gwybodaeth am y byd go iawn a fydd yn eich paratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol. Bydd sesiynau damcaniaethol, ymarferol ac academaidd yn ategu eich gwaith ar gynyrchiadau, er mwyn i chi ennill amrywiaeth fwy cynhwysfawr o sgiliau a phrofiadau.
  • Pan fyddwch wedi dysgu’r sgiliau craidd sy’n ymwneud ag amrywiaeth o rolau cynhyrchu, byddwch yn cael cyfle i arbenigo, er mwyn i’ch hyfforddiant gyd-fynd â’ch diddordebau a’ch uchelgais o ran gyrfa.
  • Bydd staff o bob cwr o'r diwydiant ac amryw o weithwyr proffesiynol a chyflogwyr gwadd yn eich hyfforddi. Byddant yn cynnig cyfleoedd rhwydweithio i chi yn ogystal ag addysg o'r radd flaenaf.
  • Pan fyddwch wedi graddio, gallwch ddilyn gyrfa mewn amryw o feysydd - fel rheoli ffilm, teledu, theatr a digwyddiadau, neu rolau mwy technegol ac yn y maes cynllunio, fel goleuo, sain neu fideo. Mae rhai o’n graddedigion wedi mynd ymlaen i hyfforddiant sy’n ymwneud â’r diwydiant a gwaith ymchwil a datblygu yn y maes gweithgynhyrchu.
  • Byddwch yn cymryd rhan mewn lleoliad cynhyrchu yn ystod eich tymor cyntaf - prosiect grŵp lle byddwch yn cynhyrchu digwyddiad â thema yn y Coleg i bob myfyriwr. Bydd pob lleoliad arall yn cynnig mwy a mwy o gyfrifoldeb i chi, ac yn eich trydedd flwyddyn, byddwch yn uwch aelod o'r tîm cynhyrchu, yn ysgwyddo llawer o gyfrifoldeb dros y perfformiadau terfynol.
  • Mae lleoliadau gwaith allanol yn rhan bwysig o'r rhaglen hon hefyd, sy’n caniatáu i chi ddatblygu eich crefft yn rhai o leoliadau a sefydliadau blaenllaw y DU.
  • Nid oes yr un cwrs arall yn cynnig cynifer â thri lleoliad allanol - ac mae’n bosibl y cewch gynnig pedwerydd lleoliad hefyd. Yn aml, bydd eich myfyrwyr yn cael lleoliadau gyda’r National Theatre, y Royal Shakespeare Company, Opera Cenedlaethol Cymru, y Royal Court a Glastonbury.
  • Cewch y cyfle i wneud prosiectau goleuo a sain, cynllunio taith ryngwladol a datblygu sgiliau mewn defnyddio systemau hedfan awtomataidd mwy datblygedig.
  • Byddwch yn cymysgu â myfyrwyr o grwpiau blwyddyn eraill yn yr adran, yn ogystal â’r actorion, y cynllunwyr a’r cerddorion o bob rhan o'r Coleg, sy’n golygu profiad cwmni theatr go iawn. 
  • Byddwch yn cael dosbarthiadau sy’n canolbwyntio ar fod yn broffesiynol, rheoli a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y diwydiant. Yn ogystal â datblygu eich gwybodaeth am reoli digwyddiadau, bydd astudiaethau cyfathrebu hefyd yn archwilio materion pwysig fel cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
  • Bydd gwersi cyfathrebu academaidd a phroffesiynol yn eich galluogi i fod yn ymarferydd yn y byd adloniant, o gyflwyno eich gwaith - a chi eich hun - rheoli eich cyllidebau a’ch llwybr gyrfa, delio â sefyllfaoedd personél cymhleth ac anodd a chynllunio digwyddiadau ar raddfa fawr.
'Gyda’r cwrs hwn rydym yn cael cyfleoedd i roi cynnig ar wahanol rolau. Mae’n wych eu bod nhw’n dysgu gwahanol lwybrau i chi gan ei fod yn caniatáu i chi benderfynu yn gynnar yn eich gyrfa beth yr hoffech arbenigo ynddo.'
James StevensonDylunydd sain
'I mi mae’r Coleg wedi bod yn rhan annatod o bopeth rydw i wedi’i wneud yn fy ngyrfa. Mae wedi bod yn bwysig iawn i mi i gynnal y berthynas honno a’r rhwydwaith hwnnw o gymorth, dysgu a mentora.'
Sarah Hemsley-ColeGraddedig a Chymrawd

Gwybodaeth arall am y cwrs

Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf

Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau

Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/privacy

Blwyddyn mynediad:
Rhanbarth:

Allow Unistats content?

Lorem ipsum doler sit amet Unistats seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf