Trosolwg o’r Cwrs
Mae’r rhaglen eang hon yn cynnwys hyfforddiant mewn ystod eang o sgiliau ymarferol sy’n gysylltiedig â rheoli llwyfan, crefft llwyfan, theatr dechnegol, cynhyrchu digwyddiadau a rheoli digwyddiadau. Mae’n rhoi cyfleoedd i chi gael profiad ymarferol o amrywiaeth o rolau cynhyrchu mewn amgylchedd gweithio sy’n adlewyrchu cyn agosed â phosibl amgylchedd theatr broffesiynol a’i diwydiannau cysylltiedig. Y flaenoriaeth yw sicrhau eich bod wedi’ch paratoi’n dda i ymateb i anghenion diwydiant amrywiol sy’n newid yn gyson.
Mae blwyddyn gyntaf y cwrs yn rhedeg o fis Medi i fis Mehefin y flwyddyn ganlynol, a bydd yn eich darparu â’r sgiliau craidd sydd eu hangen i ymgysylltu mewn cynyrchiadau. Mae hyfforddiant mewn rheoli llwyfan yn cynnwys cyfres o sesiynau ymarferol a fwriedir i ddatblygu eich gwybodaeth am, a dealltwriaeth o, rolau’r Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol (ASM) a’r Dirprwy Reolwr Llwyfan (DSM), ac yn cynnwys prosiectau mewn gwneud a dod o hyd i bropiau. Mae sesiynau Crefft Llwyfan yn datblygu eich gwybodaeth o’r sgiliau sydd eu hangen i farcio ystafelloedd rihyrsal a llwyfannau, adeiladu a gosod golygfeydd sylfaenol, a gweithio peiriannau theatr megis hemp a systemau hedfan gwrthbwyso. Byddwch hefyd yn meithrin dealltwriaeth dechnegol gadarn ym meysydd goleuo, sain, fideo a systemau trydan. Mae hyfforddiant Iechyd a Diogelwch wedi’i wreiddio yn yr hyfforddiant cyfan.
Bydd eich lleoliad cynhyrchu cyntaf yn digwydd yn ystod y tymor cyntaf ar ffurf prosiect grŵp i gynhyrchu digwyddiad seiliedig ar thema yn y Coleg i’r holl fyfyrwyr. Bydd dau leoliad cynhyrchu arall yn digwydd yn ystod tymor y gwanwyn a thymor yr haf gyda rhaglenni perfformiadau cyhoeddus cwmni theatr mewnol y Coleg, Cwmni Richard Burton. Bydd rolau nodweddiadol ar gyfer y flwyddyn gyntaf yn y cynyrchiadau hyn yn cynnwys Technegydd Swing ac ASM.
Bydd yr ail flwyddyn yn dechrau ym mis Mehefin ac yn gorffen y mis Mehefin canlynol ac mae wedi’i strwythuro’n flociau chwe wythnos sy’n newid am yn ail rhwng gwaith cwrs a gwaith cynhyrchu.
Mae gwaith cwrs yn canolbwyntio ar ddatblygu set sgiliau’r myfyrwyr a bydd lleoliadau cynhyrchu’n rhoi cyfleoedd iddynt roi’r sgiliau hyn ar waith mewn cyd-destun byd go iawn.
Mae gwaith cwrs yn ehangu sgiliau mwy datblygedig mewn rheoli llwyfan, crefft llwyfan a theatr dechnegol. Cewch y cyfle i wneud prosiectau goleuo a sain, cynllunio taith ryngwladol a datblygu sgiliau mewn defnyddio systemau hedfan awtomataidd mwy datblygedig.
Mewn lleoliadau cynhyrchu byddwch yn ymgymryd â lefelau cynyddol o gyfrifoldeb mewn rolau uwch ar draws pedwar gwahanol gynhyrchiad Cwmni Richard Burton. Erbyn diwedd y flwyddyn fe fydd cyfleoedd yn aml i gael profiad fel Rheolwr Llwyfan, Dirprwy Reolwr Llwyfan, Cynllunydd Goleuo ac ati. Mewn trafodaeth â’ch arweinwyr cwrs, gall hyd at ddau o’ch lleoliadau cynhyrchu yn yr ail flwyddyn fod yn lleoliadau allanol gyda chwmnïau theatr neu gynhyrchu proffesiynol yn y DU.
Bydd y trydedd flwyddyn yn dechrau ym mis Mehefin ac yn gorffen y mis Mehefin canlynol, gyda myfyrwyr yn graddio ar ddechrau mis Gorffennaf. Bydd yr amserlen o flociau chwe wythnos sy’n newid am yn ail rhwng gwaith cwrs a gwaith cynhyrchu yn parhau.
Mae gwaith cwrs y flwyddyn olaf yn canolbwyntio ar broffesiynoldeb, rheoli a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y diwydiant. Yn ogystal â datblygu eich gwybodaeth am reoli digwyddiadau, bydd astudiaethau cyfathrebu hefyd yn archwilio materion pwysig megis cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Byddwch yn uwch aelod o’r tîm cynhyrchu yn y llwybr arbenigol rydych wedi’i ddewis ar bedwar cynhyrchiad gwahanol, gan brofi lefel uchel o berchnogaeth dros y perfformiadau terfynol. Mewn trafodaeth â’ch arweinwyr cwrs, gall un o’ch lleoliadau trydedd flwyddyn fod yn lleoliad allanol gyda chwmni theatr neu gynhyrchu proffesiynol yn y DU.
Gellir cyflwyno’r elfen traethawd hir terfynol ar ffurf ysgrifenedig neu fel cyflwyniad. Pa bynnag lwybr y byddwch yn ei ddewis, y prif ffocws fydd ar greu cysylltiadau o fewn y diwydiant yn yr arbenigeddau rydych wedi’u dewis.
Gofynion Mynediad
Dewisir ymgeiswyr ar gyfer cyfweliad ar sail y wybodaeth a ddarperir yn eu cais UCAS.
Mae cymwysterau cyfatebol yn cynnwys WBQ, Scottish Highers, Diploma/Tystysgrif Cenedlaethol BTEC, Bagloriaeth Rhyngwladol, GNVQ Uwch, AVCE neu Ddiploma Uwch (Lefel 3), neu gymwysterau rhyngwladol cydnabyddedig.
Fodd bynnag, bydd unrhyw amodau gofynnol a gynhwysir gyda chynnig lle wedi’u seilio ar geisiadau unigol a chyfweliadau. Efallai y bydd disgwyl i ymgeiswyr gael o leiaf raddau BBC mewn Safon Uwch a DDM mewn cyrsiau BTEC, neu gyfatebol, cyn dechrau.
Efallai y bydd y Coleg yn ystyried ceisiadau gan bobl sydd heb gymwysterau ffurfiol os oes ganddynt lefel eithriadol o allu ymarferol a phrofiad.
Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd angen i ymgeiswyr rhyngwladol nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddangos bod eu gallu Saesneg yn cwrdd â gofynion sylfaenol y Coleg. Cyfeiriwch at ein tudalen Gofynion Iaith Saesneg i gael manylion profion iaith Saesneg derbyniol a’r sgorau gofynnol.
Ffioedd Dysgu ar gyfer 2023-2024
Hyd y Cwrs | Myfyrwyr o’r DU, Gweriniaeth Iwerddon, Ynysoedd y Sianel, ac Ynys Manaw | Myfyrwyr Tramor |
---|---|---|
3 blynedd llawn amser | £9,000 * | £23,860 ** |
* Gosodir ffioedd dysgu israddedig ar gyfer myfyrwyr o’r Deyrnas Unedig gan Lywodraeth Cymru. Cânt eu hadolygu’n flynyddol a gallent godi yn y dyfodol.
** Mae ffioedd dysgu israddedig ar gyfer myfyrwyr tramor yn amodol ar gynnydd blynyddol.
Gwybodaeth bellach am y cyllid sydd ar gael tuag at gost ffioedd dysgu.
-
Costau Eraill
Mae costau teithio o fewn Caerdydd yn fychan, gan fod y neuaddau preswyl, y rhan fwyaf o’r ardaloedd preswyl a chanol y ddinas o fewn taith 10-15 munud ar droed i’r campws.
Bydd rhywfaint o ddysgu yn digwydd yn ein Stiwdios Llanisien, daith fer o’r campws ar fws. Mae tocyn wythnosol o Fws Caerdydd yn £15 a gall myfyrwyr 16-21 oed wneud cais am docyn sy’n gostwng hyn i £9.60 (prisiau yn gywir ym mis Hydref 2019).
Bydd angen pecyn offer hanfodol arnoch sy’n cynnwys yr eitemau canlynol er mwyn dechrau ar y cwrs:
- Pren mesur graddfa (1:25 metrig trionglog)
- Menig rigio
- Tâp mesur 30m
- ‘Multi tool’ (Leatherman neu gyfatebol)
- ‘Podger’ (17mm/19mm) / Sbaner Cwad (13mm/17mm/19mm/21mm)
- Fflach lamp/lamp pen
Bydd angen i chi hefyd brynu eich esgidiau diogelwch blaen dur eich hun. Ni chaiff myfyrwyr fynd i mewn i’r gweithdai heb esgidiau diogelwch.
Bydd angen i fyfyrwyr gael eu dillad ‘du smart’ (crys/top llewys hir, trowsus ac esgidiau) eu hunain i’w gwisgo yn ystod sioeau. Bydd angen digon arnoch ar gyfer cyfnod y rihyrsal technegol a’r perfformiadau eu hunain (tua dwy wythnos).
Mae ffôn symudol yn offer hanfodol ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio yn y diwydiant adloniant. Mae bod â’r gallu i anfon a derbyn negeseuon e-bost yn bwysig dros ben, ac mae ffôn clyfar hefyd yn rhoi mynediad hawdd i chi at system amserlennu ar-lein y Coleg.
Bydd myfyrwyr yn ei gweld hi’n ddefnyddiol i gael eu gliniadur eu hunain, sy’n gallu rhedeg Microsoft Office a rhaglenni CAD sylfaenol megis SketchUp.
Gall myfyrwyr sy’n trefnu lleoliad profiad gwaith mewn cydweithrediad â’r Arweinwyr Cwrs fel arfer wneud cais am fwrsariaeth er mwyn cynorthwyo gyda’ch costau cysylltiedig â’r lleoliad. Ni fydd y fwrsariaeth yn talu’r holl gostau, a’r myfyrwyr fydd yn gyfrifol am y gweddill.
Anogir myfyrwyr i fynychu cymaint o berfformiadau’r Coleg â phosibl a gallant gael tocynnau am ddim ar gyfer sioeau Cwmni Richard Burton. Ar gyfer perfformiadau eraill, mae myfyrwyr yn gymwys am docynnau gyda disgownt.
Bydd angen cyflwyno traethodau hir ar ffurf copi caled a chyfrifoldeb y myfyriwr fydd talu am gostau argraffu a rhwymo’r gwaith.
Efallai y bydd angen i fyfyrwyr y mae gofyn iddynt ail-sefyll arholiadau dalu ffi ail-sefyll.