Neidio i’r prif gynnwys

Piano

Cloddiwch i gwricwlwm trwyadl sy’n cynnig meistrolaeth ar dechneg yr allweddellau, cyfleoedd i berfformio a chydweithio, yn ogystal â’r sgiliau ymarferol i lwyddo yn y diwydiant cerddoriaeth heddiw.

Mae capsiynau ar gyfer y fideo hwn ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

Pam astudio’r allweddellau yn CBCDC?

  • Byddwch yn meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl o repertoire y piano drwy hyfforddiant un-i-un gyda phrif diwtor astudio ac mewn gweithdai perfformio rheolaidd gyda phianyddion eraill. Gyda dosbarthiadau bach byddwch yn cael cefnogaeth a sylw wedi’i bersonoleiddio gan ein holl staff yn y Coleg.
  • Rydym yn blaenoriaethu cydweithio ym mhob ffurf, wedi’i lywio gan y gred ein bod yn dysgu orau pan fyddwn yn teimlo wedi’n grymuso i gyfrannu, cymryd risgiau, cefnogi a herio ein gilydd.
  • Byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn gweithdai perfformio, dosbarthiadau sgiliau (gan gynnwys darllen ar yr olwg gyntaf a gwaith byrfyfyr), prosiectau astudio arloesol, hyfforddiant ensemble, perfformio hanesyddol a chyfoes, ac ystod lawn o ddosbarthiadau mewn astudiaethau cerddorol ategol, i gyd wedi’u harwain gan arbenigwyr rhyngwladol mewn gwahanol feysydd.
  • Byddwch yn cael dosbarthiadau meistr rheolaidd gyda rhai o bianyddion mwyaf nodedig y byd, sy’n perfformio yma fel rhan o Gyfres Piano Rhyngwladol Steinway. Mae artistiaid diweddar yn cynnwys Angela Hewitt a Pavel Kolesnikov, ac mae ein Hartist Cyswllt Llŷr Williams yn rhoi datganiadau a dosbarthiadau meistr rheolaidd.
  • Bydd cyfleoedd i ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol o amrywiaeth o gefndiroedd yn y diwydiant, gan gynnwys pianyddion o Opera Cenedlaethol Cymru (WNO) a’r Bale Brenhinol, yn ogystal ag ymarferwyr ym meysydd cerddoriaeth eglwysig, jazz, theatr gerddorol a pherfformio cerddorfaol.
  • Byddwch yn cael profiad ymarferol o’r holl sgiliau hanfodol sy’n gysylltiedig ag addysgu ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o bianyddion.
  • Cewch gyfle i chwarae mewn rhaglen amrywiol o ddatganiadau a pherfformiadau cydweithredol, yn aml yn ein Neuadd Dora Stoutzker, y neuadd ddatganiad cerddoriaeth siambr gyntaf a adeiladwyd at y diben yng Nghymru ac un o’r goreuon yn y DU.
  • Ni yw’r Conservatoire Steinway yn Unig cyntaf yn y byd, a’r conservatoire cyntaf yn y DU i gael dau biano Steinway Spirio gan roi cyfle unigryw i chi ddarganfod popeth sydd gan y dechnoleg chwyldroadol hon i’w gynnig.

Oriel


Archwilio’r adran hon

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf