Neidio i’r prif gynnwys

Conservatoire Iau (rhan o ddiwrnod)

Conservatoire Iau (rhan o ddiwrnod) yn CBCDC yw ‘Cam 3’ y cwricwlwm.

Mae’n fwyaf addas ar gyfer plant 8 i 15 oed y mae eu lefel mynediad fel a ganlyn

  • tua Gradd 5 neu gyfwerth ar gyfer cantorion*, chwaraewyr chwythbrennau ac offerynnau pres ac offerynwyr taro
  • Graddau 5 a 6 neu gyfwerth ar gyfer chwaraewyr llinynnau a phiano

*mae gwersi llais ar gael i ddysgwyr 11 oed a hŷn

Mae gwersi a dosbarthiadau’r Conservatoire Iau (rhan o ddiwrnod: Cam 3) yn bwrpasol, ysgogol, a phleserus ac wedi’u cynllunio i gefnogi eich nodau cerddorol personol. Mae ein dull llawn cefnogaeth yn ceisio adeiladu eich hyder a’ch hunangred a’ch rhoi ar lefel uwch yn eich teithiau cerddorol unigryw. Cyflwynir ein gwersi a’n dosbarthiadau mewn amgylchedd dysgu hwyliog a phwrpasol ar gyfer y celfyddydau perfformio. Yn hollbwysig, byddwch yn cael cyfleoedd i weithio gyda phobl ifanc eraill sydd â nodau tebyg i’ch rhai chi.


Beth fyddaf yn ei ddysgu?

Manylion pellach:

Cynhelir gwersi a dosbarthiadau Conservatoire Iau (rhan o ddiwrnod: Cam 3) ar ddyddiau Sadwrn.

Ceir mynediad drwy gais, a rhaid iddo gynnwys cyflwyniad recordiad o chwarae neu ganu’r dysgwr.

Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn ymuno â’r Conservatoire Iau (rhan o ddiwrnod: Cam 3) ym mis Medi, ar ddechrau’r flwyddyn academaidd. Gall rhai dysgwyr hefyd ddechrau ym mis Ionawr neu fis Ebrill, yn amodol ar argaeledd hyfforddiant.

Mae’r Conservatoire Iau (rhan o ddiwrnod: Cam 3) yn costio £728 fesul tymor deg wythnos o fis Medi 2023 i fis Gorffennaf 2024. Mae gweithgareddau dewisol yn cynnwys

  • dosbarth theori ABRSM a addysgir (£60 y tymor, 30 munud yr wythnos)
  • astudiaeth ychwanegol (£295 y tymor, 30 munud yr wythnos)
  • ymestyn eich prif astudiaeth (£147.50 y tymor am 15 munud ychwanegol yr wythnos)

Cymorth ariannol

Mae Cerddorion Ifanc CBCDC wedi ymrwymo i roi’r cyfle i gynifer o bobl ifanc â phosibl elwa gan yr hyfforddiant arbenigol a ddarperir gan CBCDC, waeth beth fo’u cefndir neu fodd ariannol.

Diolch i haelioni llawer o ffrindiau a chefnogwyr y Coleg, gall teuluoedd wneud cais am fwrsariaeth ar sail prawf modd er mwyn helpu i dalu ffioedd a all fod hyd at 100% o gyfanswm ffioedd y cwrs. Rydym yn rhoi pwyslais mawr ar wneud ein holl gyrsiau’n hygyrch i bobl ifanc sydd ag ymroddiad i gerddoriaeth, gyda dros 50% o ddysgwyr presennol yn derbyn cymorth ariannol. Rydym yn eich annog i fanteisio ar y gefnogaeth hael sydd ar gael.

Daw’r cylch ymgeisio am fwrsariaeth i ben yn y mis Gorffennaf cyn mynediad ym mis Medi. Cynghorir teuluoedd sydd â diddordeb mewn gwneud cais am fwrsariaeth ar ôl mis Gorffennaf ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod i gysylltu â ni i wirio a allai unrhyw gyllid sy’n weddill fod ar gael.


Archwilio’r adran