Neidio i’r prif gynnwys

Conservatoire Iau (diwrnod llawn)

Conservatoire Iau (diwrnod llawn) yn CBCDC yw ‘Cam 4’ y cwricwlwm.

Mae’n fwyaf addas ar gyfer plant 8 i 18 oed y mae eu lefel mynediad fel a ganlyn.

  • cantorion, chwaraewyr chwythbrennau ac offerynnau pres ac offerynwyr taro sydd, neu a fydd, erbyn eu bod ym Mlwyddyn 11 ar Radd 6 neu gyfwerth a thu hwnt
  • chwaraewyr llinynnau a phiano sydd, neu a fydd, erbyn eu bod ym Mlwyddyn 11 ar Radd 7 neu gyfwerth a thu hwnt

Mae gwersi a dosbarthiadau’r Conservatoire Iau (diwrnod llawn: Cam 4) yn ysgogol, heriol, pleserus ac wedi’u cynllunio i’ch helpu i gyflawni eich nodau cerddorol personol. Maent yn darparu ar gyfer dysgwyr sy’n ymroddedig i greu cerddoriaeth ac sy’n awyddus i ddatblygu eu chwarae neu ganu i lefel mynediad conservatoire a thu hwnt.

Mae ein dull llawn cefnogaeth yn ceisio adeiladu eich hyder a’ch hunangred a’ch paratoi ar gyfer y cam nesaf yn eich gyrfa gerddorol. Mae ein gwersi a’n dosbarthiadau yn cael eu cyflwyno mewn amgylchedd dysgu hwyliog a phwrpasol ar gyfer y celfyddydau perfformio. Yn hollbwysig, byddwch yn cael cyfleoedd i weithio gyda phobl ifanc eraill sydd â nodau tebyg i’ch rhai chi.

Mae dysgwyr fel arfer yn aros yng Ngham 4 nes iddynt adael yr ysgol. Efallai y bydd rhai hefyd yn ymestyn eu hastudiaethau yn ystod blwyddyn/blynyddoedd i ffwrdd, ar ôl gadael addysg uwchradd. Mae llawer o ddysgwyr Cam 4, ond nid pob un o bell ffordd, yn parhau â’u hastudiaethau cerddorol mewn conservatoire neu brifysgol. Mae’r cwrs yn addas ar gyfer pob cerddor ifanc dawnus, beth bynnag yw amcanion eu gyrfa.

Beth fyddaf yn ei ddysgu?

Manylion pellach

Cynhelir gwersi a dosbarthiadau Conservatoire Iau (diwrnod llawn: Cam 4) ar ddyddiau Sadwrn.

Ceir mynediad drwy gais, a rhaid iddo gynnwys cyflwyniad recordiad o chwarae neu ganu’r dysgwr.

Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn ymuno â’r Conservatoire Iau (diwrnod llawn: Cam 4) ym mis Medi, ar ddechrau’r flwyddyn academaidd. Gall rhai dysgwyr hefyd ddechrau ym mis Ionawr neu fis Ebrill, yn amodol ar argaeledd hyfforddiant.

Mae’r Conservatoire Iau (diwrnod llawn: Cam 4) yn costio £925 fesul tymor deg wythnos o fis Medi 2023 i fis Gorffennaf 2024. Mae gweithgareddau dewisol yn cynnwys

  • dosbarth theori ABRSM a addysgir (£60 y tymor, 30 munud yr wythnos)
  • astudiaeth ychwanegol (£295 y tymor, 30 munud yr wythnos)
  • ymestyn eich prif astudiaeth (£147.50 y tymor am 15 munud ychwanegol yr wythnos)

Cymorth ariannol

Mae Cerddorion Ifanc CBCDC wedi ymrwymo i roi’r cyfle i gynifer o bobl ifanc â phosibl elwa ar yr hyfforddiant arbenigol a ddarperir gan CBCDC, waeth beth fo’u cefndir neu fodd ariannol.

Diolch i haelioni llawer o ffrindiau a chefnogwyr y Coleg, gall teuluoedd wneud cais am fwrsariaeth prawf modd er mwyn helpu i dalu ffioedd a all fod hyd at 100% o gyfanswm ffioedd y cwrs. Rydym yn rhoi pwys mawr ar wneud ein holl gyrsiau’n hygyrch i bobl ifanc sy’n ymroddedig i gerddoriaeth, gyda dros 50% o ddysgwyr presennol yn derbyn cymorth ariannol. Rydym yn eich annog i fanteisio ar y gefnogaeth hael sydd ar gael.

Daw’r cylch ymgeisio am fwrsariaeth i ben yn y mis Gorffennaf cyn mynediad mis Medi. Cynghorir teuluoedd sydd â diddordeb mewn gwneud cais am fwrsariaeth ar ôl mis Gorffennaf ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod i gysylltu â ni i wirio a allai unrhyw gyllid sy’n weddill fod ar gael.


Archwilio’r adran