Neidio i’r prif gynnwys

Sut i ymgeisio

Mae CBCDC yn fan i bawb ac rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr o bob cefndir a/neu anabledd. Byddai ein tîm yn falch iawn o ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am ein cyrsiau neu’r broses ymgeisio ac i drafod unrhyw ofynion ychwanegol sydd gennych.

Pryd ddylwn i wneud cais am le?

Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau ar gyfer pob cwrs rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod

  • cynhelir cyrsiau Cerddoriaeth Mini i ddechreuwyr yn dibynnu ar niferoedd ac maent ar gael ym mis Medi ac, fel arfer, ym mis Ebrill. Anogir teuluoedd i anfon e-bost atom ynglŷn ag argaeledd lleoedd ac i gyflwyno cais unrhyw bryd
  • i’r rheini sy’n gwneud cais i gwrs Cam 4 y Conservatoire Iau ar ôl mis Awst, a fyddech cystal â bod yn ymwybodol efallai na fydd rhai elfennau o’ch cwrs ar gael yn llawn tan y flwyddyn academaidd ganlynol (e.e. cerddoriaeth siambr).

Sut mae gwneud cais?

Mae gofyn i ymgeiswyr ar gyfer Cerddoriaeth Mini (Cam 1) gyflwyno ffurflen gais wedi’i chwblhau.

Mae gofyn i ymgeiswyr ar gyfer ein cyrsiau Cerddoriaeth yn Gyntaf (Cam 2) a Conservatoire Iau (Camau 3 a 4) gyflwyno:
• recordiad newydd o’u chwarae yn unol â’r cyfarwyddiadau a roddir isod, ynghyd â

•    ffurflen gais wedi’i wedi’i chwblhau 

Mae angen recordiad a ffurflen wedi’i chwblhau er mwyn i’ch cais gael ei brosesu.

Ein nod yw cadarnhau canlyniad eich cais o fewn 6 wythnos waith. 

Yr hanfodion

Cymorth ariannol

Rydym wedi ymrwymo i roi’r cyfle i gynifer o bobl ifanc â phosibl elwa gan yr hyfforddiant arbenigol a ddarperir gan CBCDC, waeth beth fo’u cefndir neu fodd ariannol.

Diolch i haelioni llawer o ffrindiau a chefnogwyr y Coleg, gall teuluoedd wneud cais am fwrsariaeth seiliedig ar brawf modd er mwyn helpu i dalu ffioedd a gall dalu hyd at 100% o gyfanswm ffioedd y cwrs. Rydym yn rhoi pwys mawr ar wneud ein holl gyrsiau yn hygyrch i bobl ifanc sy’n ymroddedig i gerddoriaeth, gyda dros 50% o’r dysgwyr presennol yn derbyn cymorth ariannol. Rydym yn eich annog i fanteisio ar y gefnogaeth hael sydd ar gael.

Mae ein cylch ceisiadau am fwrsariaeth Cerddorion Ifanc fel arfer yn dod i ben yn y mis Gorffennaf cyn mynediad mis Medi. Gofynnir i’r rheini sydd â diddordeb mewn gwneud cais am fwrsariaeth ar ôl mis Gorffennaf ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod i gysylltu â ni i wirio a allai unrhyw gyllid sy’n weddill fod ar gael a/neu am fanylion cyllidwyr allanol y gallant wneud cais iddynt.


Archwilio’r adran