Neidio i’r prif gynnwys

Lles a diogelwch myfyrwyr

Gwyddom y gall bywyd yn y Coleg fod yn feichus ac y bydd heriau. P’un a oes angen rhywun i siarad â nhw, cyngor neu gymorth ymarferol arnoch, mae’n bwysig eich bod yn gwybod at bwy i droi ac yn teimlo’n hyderus i ofyn am gymorth.

Hwb Gwybodaeth (Llyfrgell, llawr cyntaf) - yr Hwb Gwybodaeth yw eich pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer cwestiynau ac arweiniad ynglŷn ag unrhyw agwedd ar eich profiad fel myfyriwr. Os nad ydych yn siŵr i ble i fynd neu wrth bwy i ofyn, gallwch bob amser ddechrau yma. Mae’r Hwb Gwybodaeth ar gael wyneb yn wyneb rhwng 9:00 a 19:00 bob diwrnod o’r wythnos waith, a gallwch hefyd anfon e-bost atynt yn infohub@rwcmd.ac.uk

Gwasanaethau Myfyrwyr (Llawr gwaelod, wrth ymyl Siop Undeb y Myfyrwyr) – mae’r tîm arbenigol a chroesawgar hwn yn cynnig cymorth a chyngor ar ystod o wasanaethau, gan gynnwys iechyd meddwl ac anghenion cymorth dysgu. Gall y tîm hefyd eich cyfeirio at elusennau, sefydliadau a gwasanaethau’r GIG. I gael rhagor o wybodaeth, siaradwch â’r Hwb Gwybodaeth neu anfonwch e-bost at studentservices@rwcmd.ac.uk. Mae gwybodaeth am gymorth tu allan i oriau hefyd ar gael yma: Cymorth Tu Allan i Oriau – HUB / HWB

Gwasanaeth Cwnsela – mae ein cwnselwyr yn cynnig man diogel a chyfrinachol i drafod unrhyw faterion neu broblemau sydd gennych, ac archwilio’r dewisiadau a’r opsiynau sydd ar gael i chi. Gallwch gyfeirio eich hun at y gwasanaeth hwn drwy anfon e-bost at counselling@rwcmd.ac.uk yn ystod dyddiau’r wythnos waith a dylech dderbyn ymateb o fewn 24 awr.

Adrodd a Chymorth – mae ein system adrodd gyfrinachol, Adrodd a Chymorth, yn parhau i gynnig ffordd syml a hygyrch i chi godi pryderon ar unrhyw adeg. Er y gallwch ddewis adrodd yn ddienw, a darllenir pob adroddiad, bydd adroddiadau lle rydych yn cynnwys eich enw yn golygu y gallwn roi ymateb i chi o fewn 24 awr waith. Bydd yr ymateb yn cynnwys cynnig i gyfarfod ag aelod o staff sydd wedi’i hyfforddi, er mwyn trafod eich adroddiad a’r hyn yr hoffech ei wneud nesaf. Os byddwch yn cyflwyno adroddiad dienw, ni fydd modd i ni gysylltu â chi.

Ein polisïau a’n gweithdrefnau - mae polisïau a gweithdrefnau ffurfiol y Coleg yn sail i’n hymrwymiad i feithrin diwylliant lle na oddefir ymddygiad amhriodol, bwlio, aflonyddu, gwahaniaethu na chamdriniaeth. Maent ar gael i’r cyhoedd, a gellir dod o hyd iddynt yma: POLISÏAU, GWEITHDREFNAU, CANLLAWIAU, FFURFLENNI A DOGFENNAU’R COLEG

Rydym yn ailddatgan, ar y cyd, ymrwymiad y Coleg ac Undeb y Myfyrwyr i sicrhau bod CBCDC yn amgylchedd cefnogol, sy’n rhydd o fwlio, gwahaniaethu ac aflonyddu o unrhyw fath. Mae’r ymrwymiad hwn i’w weld ar bosteri ledled y Coleg, a gallwch hefyd ddod o hyd i gopi o’r Datganiad Parch yma

Ac wrth gwrs, gallwch bob amser siarad â’ch tiwtoriaid neu eich pennaeth adran.


Adran archwilio