

Gwnewch gais nawr am y cwrs MA mewn Rheoli Llwyfan a Digwyddiadau | Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Datblygwch y sgiliau a’r profiad i ddilyn gyrfa mewn theatr, digwyddiadau byw, rheoli cynhyrchu, cyfarwyddo technegol, ffilm neu deledu.
Mae’r MA mewn Rheoli Llwyfan a Digwyddiadau yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn cyfuno profiad cynhyrchu ymarferol, hyfforddiant arbenigol a lleoliadau gwaith yn y diwydiant i’ch paratoi ar gyfer gofynion gwaith cynhyrchu proffesiynol.
Mynychwch un o'n diwrnodau agored a digwyddiadau ar-lein, neu darganfyddwch sut i wneud cais.
Pam astudio Rheoli Llwyfan yn CBCDC
P’un a ydych chi’n raddedig gyda phrofiad ymarferol neu eisoes yn gweithio yn y diwydiannau adloniant neu ddigwyddiadau, bydd y cwrs yn eich helpu i ddatblygu’r sgiliau technegol, trefniadol a rheoli sydd eu hangen i symud ymlaen yn eich maes dewisol.
Trwy waith cynhyrchu ymarferol, lleoliadau gwaith yn y diwydiant a hyfforddiant arbenigol, byddwch yn cael profiad o weithio ochr yn ochr â pherfformwyr, cynllunwyr, cyfarwyddwyr a gweithwyr proffesiynol eraill yn y diwydiant. Byddwch yn ymgymryd â rolau cynhyrchu ar draws ystod o berfformiadau a digwyddiadau yn y Coleg, gyda chyfleoedd i gael lleoliadau gwaith gyda chwmnïau proffesiynol.
Pam astudio am gymhwyster ôl-raddedig?
Mae gradd Meistr yn cynnig y cyfle i adeiladu ar eich profiad presennol a datblygu sgiliau mwy datblygedig yn eich maes dewisol.
- Troi profiad yn arbenigedd
Adeiladu ar eich astudiaethau israddedig neu brofiad proffesiynol, gan ddatblygu’r sgiliau arbenigol sydd eu hangen i gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa.
- Paratoi ar gyfer mwy o gyfrifoldeb
Datblygu eich sgiliau technegol, trefniadol a rheoli mewn meysydd megis cyllidebu, amserlennu, iechyd a diogelwch a rheoli cynhyrchiad.
- Archwilio cyfleoedd gyrfa newydd
Adeiladu ar eich sgiliau presennol neu ailhyfforddi ar gyfer cyfeiriad newydd, gyda phrofiad sy’n berthnasol i’r theatr, digwyddiadau byw, ffilm a theledu.
- Dysgu gan weithwyr proffesiynol yn y diwydiant
Elwa o hyfforddiant arbenigol, mentora a dosbarthiadau meistr tra’n meithrin cysylltiadau gwerthfawr ag ymarferwyr a chydweithwyr posibl yn y dyfodol.
- Ennill profiad ymarferol yn y diwydiant
Ymgymryd â rolau cynhyrchu ar draws meysyd theatr, opera, theatr gerddorol, cyngherddau a digwyddiadau byw, gyda chyfleoedd i gael lleoliadau gwaith gyda chwmnïau proffesiynol.
- Gwneud i’ch astudiaethau weithio ar gyfer eich uchelgeisiau
Teilwra eich profiad lleoliad gwaith i’ch diddordebau a dewis traethawd hir neu Bortffolio Ymarfer Proffesiynol ar gyfer eich prosiect terfynol.
Astudio yng Nghaerdydd, prifddinas Cymru
Mae Caerdydd yn brifddinas fywiog sydd â byd celfyddydau ac adloniant ffyniannus. Gyda theatrau, lleoliadau cerddoriaeth fyw, gwyliau, caffis a mannau gwyrdd, mae digon i’w archwilio ochr yn ochr â’ch astudiaethau.
Mae’r ddinas yn gartref i amrywiaeth o sefydliadau celfyddydol sefydledig, gan gynnwys Canolfan Mileniwm Cymru, Opera Cenedlaethol Cymru a Theatr Sherman. Mae ei bywyd diwylliannol yn cynnig cyfleoedd i brofi gwahanol fathau o berfformiadau ac i ymgysylltu â’r diwydiannau creadigol ehangach.
Ydych chi’n barod i gymryd y cam nesaf?
Datblygwch eich sgiliau, ennill profiad cynhyrchu ymarferol a pharatoi ar gyfer cam nesaf eich gyrfa gyda’r MA mewn Rheoli Llwyfan a Digwyddiadau yn CBCDC.
Gwneud cais o’r tu allan i’r DU?
Astudiwch yn CBCDC a chael hyfforddiant arbenigol mewn amgylchedd conservatoire proffesiynol yng Nghaerdydd, prifddinas Cymru.
Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â myfyrwyr a gweithwyr proffesiynol y diwydiant o amrywiaeth o ddisgyblaethau creadigol, gan ennill profiad ymarferol a datblygu eich dealltwriaeth o ddiwydiannau adloniant a digwyddiadau’r DU.
I gael gwybodaeth am ofynion mynediad, ceisiadau a ffioedd ewch i dudalen y cwrs. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch gwneud cais o’r tu allan i’r DU, cysylltwch â’n tîm Derbyniadau admissions@rwcmd.ac.uk

Rheoli Llwyfan a Theatr Dechnegol

Dewch i Cymrawd newydd Sarah Hemsley-Cole, un o raddedigion ein cwrs Rheoli Llwyfan

Trawsnewid mannau cyffredin yn lleoliadau eithriadol yw gwaith Alex Moore, Rheolwr Lleoliadau Doctor Who, a raddiodd mewn Rheoli Llwyfan
Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf
Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau
Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/cy/privacy

