
Ella Stokes
2025
Blwyddyn graddio:

Soprano o Abertawe yw Tara Camm sy’n astudio yn Ysgol Opera David Seligman. Mae wedi cael llawer o wahanol brofiadau perfformio, yn fwyaf diweddar yn chwarae rhan Tonina yng nghynhyrchiad Ysgol Opera David Seligman o Prima la musica e poi le parole, Helena yn A Midsummer Night’s Dream a’r Chwaer Genovieffa yng nghynhyrchiad Gŵyl Haf Academi Opera Berlin o Suor Angelica. Mae’n Gymraes rugl ac mae ei Halmaeneg sgyrsiol o safon uwch. Mae wedi perfformio mewn llawer o gyngherddau megis ‘Music for the movies’ a ‘Zimmer Vs Williams’ yn arena Abertawe, Dathliad o Gerddoriaeth Cymru yng Ngŵyl Eglwys Gadeiriol Llandaf a llawer o nosweithiau diwylliannol yn ‘The spirit of Wales singers’. Cafodd hefyd yr anrhydedd o ganu cân deitl cyngerdd dathlu cerddoriaeth Gymreig Syr Bryn Terfel ‘Pan Ddaw’r Nos’ a ‘Noson gyda Bryn Terfel’ yng Ngŵyl Gerdd Prifysgol Aberystwyth.
Cefnogir astudiaethau Tara gan Ysgoloriaeth y Fonesig Shirley Bassey, Ymddiriedolaeth Goffa Ryan Davies a Gwobr Eileen Price McWilliam, er cof am ei meibion Alastair a David McWilliam.