Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Rhys Meilyr Jones

Blwyddyn graddio: 2025

Yn enedigol o Ynys Môn, bydd Rhys Meilyr yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf fel Artist Ifanc Alvarez yn Garsington Opera yr haf hwn. Mae wedi gweithio gydag amryw o Gwmnïau Opera eraill megis WNO, Gŵyl Opera Longborough ac Opra Cymru. 

Cwblhaodd Rhys ei radd MA Perfformio yn yr Academi Gerdd Frenhinol, Llundain. 

Ei berfformiad mwyaf nodedig oedd canu ym Mhalas Buckingham i ddathlu hanner can mlynedd ers arwisgo EUB Tywysog Charles (Brenin Charles III bellach), ymhlith y Teulu Brenhinol 

a gwesteion nodedig eraill. 

Ef hefyd yw llais Cymraeg y cymeriad ‘Noddy’ ar S4C. 

Cefnogir astudiaethau Rhys yn y Coleg gan Ysgoloriaeth Gelfyddydau Ymddiriedolaeth Leverhulme, Ysgoloriaeth Robert Maskrey, Ymddiriedolaeth Kathleen ac Ysgoloriaeth CBCDC.

Proffiliau myfyrwyr eraill