Suwoo Son
2024
Blwyddyn graddio: 2025
Mae Rhys Archer, tenor o Ogledd Cymru, ym mlwyddyn gyntaf ei astudiaethau ôl-radd yn cael ei hyfforddi gan Jeffrey Lloyd-Roberts. Mae Rhys wedi gweithio gydag Opera Ieuenctid Cenedlaethol Cymru ar recordiad o Hedd Wyn gan Stephen Mcneff a gydag Opera Cymru mewn fersiwn ffilm o Un Noson Ola Leuad gan Gareth Glyn. Mae ei brofiad llwyfan blaenorol yn cynnwys Remendado yn Carmen gan Bizet ac Orpheus yn Orpheus and Euridice gan Gluck (Opera Prifysgol Caerdydd).
Ymhlith ei uchafbwyntiau cyngerdd diweddar mae perfformio fel unawdydd gwadd gyda Cherddorfa Gyngerdd Llundain yn dathlu cerddoriaeth Hans Zimmer a John Williams.
Mae Rhys yn angerddol am gerddoriaeth yn y gymuned ac yn gweithio gydag elusen Aloud i ddathlu a hyrwyddo canu corawl Cymreig i bobl ifanc.