Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Poppy Damazer

Blwyddyn graddio: 2025

Astudiodd y mezzo-soprano Poppy Damazer am radd MMus yng Nghonservatoire Brenhinol yr Alban a Diploma Ôl-radd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, lle enillodd Wobr Dorothy Davies Ingram a Gwobr Asiantaeth Harlequin. Perfformiadau diweddar: Dido yn Dido ac Aeneas (Opera UEA), Corws yn Agreed (Glyndebourne), Jeunes filles yn La Belle Hélène (Opera New Sussex), Carmen, Baba the Turk yn The Rake’s Progess a Florence yn Albert Herring (Golygfeydd Opera CBCDC). Cefnogir astudiaethau Poppy yn hael gan Ysgoloriaeth Eileen Price McWilliam er cof am ei meibion, Alastair a David McWilliam, Ysgoloriaeth RathUnderwood ac Ysgoloriaeth Ymddiriedolaeth Elusennol The Girdlers’ Company.

Proffiliau myfyrwyr eraill