Constance Canavarro
2021
Blwyddyn graddio: 2025
Mae uchafbwyntiau Owain Rowlands, y bariton o Gymro, yn cynnwys perfformio a theithio yn Tsieina gyda Chôr Siambr Prifysgol Caerdydd, yn Alabama gyda Chôr yr Urdd ac yn fwy diweddar fel unawdydd yn rhan o Ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi yn Ninas Efrog Newydd, Philadelphia a Washington DC.
Yn ddiweddar cyrhaeddodd Owain rownd derfynol cystadleuaeth fawreddog Ysgoloriaeth Syr Bryn Terfel, daeth yn ail yng nghystadleuaeth Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine Eisteddfod Llangollen, ef oedd enillydd ‘Llais Llwyfan Llanbed’ ac yn fwy diweddar enillydd Cystadleuaeth Canwr Ifanc Cymry Llundain.
Cefnogir astudiaethau Owain yn hael gan Ysgoloriaeth Canmlwyddiant Syr Geraint Evans ac Ysgoloriaeth Ryan Davies.