Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Marie Quemerais

Blwyddyn graddio: 2027

Soprano Ffrengig-Brydeinig yw Marie Quemerais sy’n gynfyfyriwr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Ar hyn o bryd, mae yn ei blwyddyn olaf yn astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Cerddoriaeth (Perfformio Opera) yn y Coleg. Mae ei repertoire yn cynnwys caneuon Ffrengig, yn enwedig gweithiau Claude Debussy a Francis Poulenc, yn ogystal ag ystod eang o weithiau opera (Micaëla yn ‘Carmen’ gan Bizet, Oscar yn ‘Un Ballo in Maschera’ gan Verdi, ac Ilia yn ‘Idomeneo’ gan Mozart ymhlith eraill).

Mae ei pherfformiadau diweddar yn cynnwys: ‘Orpheus in the Underworld’ gan Offenbach (yn dirprwyo ar gyfer rôl Minerva, ac yn y corws), ‘Eugene Onegin’ gan Tchaikovsky (corws ar gyfer Gala Opera WNO), a ‘Die Fledermaus’ gan R. Strauss (corws ar gyfer Gala Opera WNO).

Cefnogir astudiaethau ôl-radd Marie yn hael gan ysgoloriaeth Eileen Price.

Proffiliau myfyrwyr eraill