Rachel Astall
2021
Blwyddyn graddio: 2025
Mae’r Soprano Cymraeg Maisie Rae O’Shea yn astudio perfformiad llais, ochr yn ochr â chyfarwyddo'r wythawd lleisiol, Solstice. Gyda diddordeb eang o gerddoriaeth, mae Maisie wedi recordio gwaith newydd ac anghofiedig fel unawdydd gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, wedi perfformio darnau newydd eu cyhoeddi mewn cydweithrediad â Chymdeithas Holst, ac yn ddiweddar wedi creu rôl operatig newydd yng Ngŵyl Atmospheres. Mae Maisie yn angerddol am gerddoriaeth gynnar, ac yn aml yn perfformio gydag ensembles baroc amrywiol.
Perfformiadau diweddar: Zerlina yn ‘Don Giovanni’, Unawd Soprano yn B Minor Mass Bach ac ‘Petite Messe Solennelle’ gan Rossini.
Cefnogir astudiaethau Maisie yn hael gan Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen, Ymddiriedolaeth Ysgol Gramadeg Merched Aberhonddu ac Ysgoloriaeth CBCDC.