Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

John Rhys Liddington

Blwyddyn graddio: 2025

Yn chwaraewr Bas Dwbl ers ei fod yn 7 oed, dechreuodd John Rhys Liddington ddangos diddordeb yn y llais yn 15 oed a daeth yn berfformiwr corawl ac unawdydd medrus yn gyflym. Ers hynny, mae wedi bod yn aelod o amrywiol ensembles ieuenctid mawreddog megis Academi Only Boys Aloud, Côr Ieuenctid Cenedlaethol Cymru ac Academi Glyndebourne. Mae wedi mynd ymlaen i weithio gydag amrywiaeth eang o ensembles megis Cerddorfa BBFO Rachel Podger, Cwmni Opera Ieuenctid WNO, Côr Eglwys Gadeiriol Llandaf a Chorws BBC Now fel unawdydd a gwaith corawl. Ar hyn o bryd mae John yn dilyn gradd meistr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn astudio gyda Gail Pearson ac yn bwriadu dilyn gyrfa fel canwr

Proffiliau myfyrwyr eraill