Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Jennifer Moráfková

Blwyddyn graddio: 2027

Soprano o’r Weriniaeth Tsiec yw Jennifer Moráfková sy’n dilyn cwrs gradd Meistr mewn Llais yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, dan hyfforddiant Nuccia Focile. Graddiodd gyda Diploma Proffesiynol o Trinity Laban Conservatoire of Music and Dance yn 2024, gyda chefnogaeth Ysgoloriaeth y Fonesig Felicity Lott. Mae ganddi hefyd radd Baglor mewn Cerddoriaeth o’r Royal Holloway, lle enillodd Gystadleuaeth Concerto RHUL.

Ymhlith y rolau y mae wedi’u perfformio mewn golygfeydd opera mae’r Iarlles (Le nozze di Figaro), Fiordiligi (Così fan tutte), Donna Elvira (Don Giovanni), Arabella (Arabella) a Leonore (Fidelio). Yn 2024, gwnaeth ei hymddangosiad cyntaf yn yr Almaen fel Taumännchen yn Hänsel und Gretel a pherfformiodd yn y corws, a dirprwyo ar gyfer rôl yr Iarlles yn Le nozze di Figaro gyda Prague Summer Nights yn Theatr Estates, Prag. Mae hefyd wedi ymddangos fel rhan o’r corws yng nghynhyrchiad Ysgol Opera David Seligman o Orpheus in the Underworld, ac yng nghyngherddau ‘REPCo Opera Classics’ gyda cherddorfa. Yr haf hwn, perfformiodd Jennifer yng Ngŵyl Haf Kroměříž a chymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr gyda Kateřina Kněžíková.

Proffiliau myfyrwyr eraill