Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Jamie Farrow

Blwyddyn graddio: 2025

Astudiodd Jamie ym Mhrifysgol Birmingham (gan raddio mewn Cerddoriaeth gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf) cyn dod i CBCDC ym mis Medi 2023. Mae wedi perfformio gydag amrywiaeth o ensembles gan gynnwys Tenebrae a chorws CBSO ac mae’n gyn-glerc lleyg y ddwy Eglwys Gadeiriol yn Birmingham. Roedd hefyd yn leisydd cefndir i Katherine Jenkins, gan berfformio’n fyw a recordio sawl albwm. Ym mis Ebrill 2025, creodd Jamie y recordiad stiwdio cyntaf o gylch caneuon William Mathias, The Fields of Praise.

Rôl operatig gyntaf Jamie oedd “Flute” yn A Midsummer Night’s Dream gan Britten yn CBCDC yn Haf 2024. Eleni, gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf fel ‘Alfredo’ yn La Traviata gan Verdi gydag Opera Duchy ac Opera Park House.

Cefnogir astudiaethau Jamie yn CBCDC gan Help Musicians fel Deiliad Gwobr Opera Sybil Tutton, a hefyd gan Ysgoloriaeth Starmer Jones.

Proffiliau myfyrwyr eraill