Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Jacob Parker

Blwyddyn graddio: 2027

Dechreuodd Jacob Parker ei yrfa canu fel corydd yng Nghadeirlan Bryste yn 9 oed (ar ôl bod yn gorydd yn St Mary Redcliffe ers ei fod yn 7 oed). Penodwyd Jacob yn Brif Gorydd y Gadeirlan ac ar ôl gadael Côr y Gadeirlan bu’n arwain Consort y Gadeirlan (Tenor). Llwyddodd Jacob hefyd mewn clyweliad ar gyfer Côr Sir Hŷn Caerfaddon a Gogledd-ddwyrain Gwlad yr Haf. Yn ystod ei gyfnod yn y Chweched Dosbarth penodwyd Jacob i swydd Myfyriwr Corawl yng Nghadeirlan Bryste (swydd a grëwyd yn arbennig ar ei gyfer er mwyn iddo allu parhau i ganu ochr yn ochr â’r Clerigwyr Lleyg proffesiynol).

Enillodd Jacob le i astudio canu ar gwrs gradd perfformio pedair blynedd yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd, yn astudio gyda Quentin Hayes a Peter Wilson, gan raddio yn 2025. Cafodd hefyd wersi ymgynghorol gydag Eamonn Dougan ac Elin Manahan Thomas. Tra ei fod yn yr RNCM canodd Jacob yng Nghôr Siambr yr RNCM (fel Tenor Cyntaf). Fel aelod o’r côr, perfformiodd fel unawdydd ar recordiad o bedair Soned gan Martin Ellerby, a bu’n unawdydd ar gyfer perfformiad RNCM50 o ‘The Lark Ascending’ gan Vaughan Williams. Gwahoddwyd ef hefyd i berfformio ochr yn ochr â Roderick Williams a Kor Edvard Grieg yn y perfformiad cyntaf erioed o ‘Du var Vinden’ gan Williams, a chymerodd ran ym mherfformiad ‘Offeren’ Ligeti yn ystod Proms y BBC, o dan y teitl ‘A Space Odyssey’. Parhaodd perthynas berfformio Jacob â’r Edvard Grieg Vokalensemble pan ofynnodd yr RNCM iddo deithio i Norwy i ganu yn y dathliad ar gyfer Coroni’r Brenin Siarl III yn Håkonshallen. Yn ystod ei gyfnod yn yr RNCM cymerodd Jacob ran hefyd mewn nifer o berfformiadau opera, gan gynnwys ‘Die Fledermaus’ (Strauss) a ‘The Snow Princess’ (Rimsky-Korsakov). Yn ystod ei gyfnod ym Manceinion roedd Jacob hefyd yn Ysgolhaig Corawl gyda HeartEdge Manchester, gan weithio gydag Andrew Earis, Cyfarwyddwr Cerdd (St Martin-in-the-Fields). Roedd hefyd yn gantor dirprwyol gyda HeartEdge Manchester, ac yn cael ei wahodd yn aml i ddirprwyo mewn gwasanaethau, cyngherddau a recordiadau (BBC). Mae Jacob wedi perfformio ar y teledu a’r radio ar sawl achlysur, gan gynnwys fel cantor ar gyfer y ‘Morning Service’ ar BBC Radio 4, yn y rhaglen ‘Christmas Carols’ ar ITV, ac fel cantor dirprwyol yng Nghadeirlan Bryste.

Ar ôl graddio o’r RNCM enillodd Jacob le ar y cwrs gradd Meistr mewn Perfformio dwy flynedd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn astudio gyda Jeffery Lloyd Roberts a James Gilchrist. Mae Jacob yn falch iawn iddo gael ei wahodd i drosglwyddo i’r Cwrs Opera, fel Tenor, ar ddiwedd ei flwyddyn gyntaf yn y Coleg, ac mae ar hyn o bryd yn mwynhau ei ail flwyddyn o astudiaethau ôl-radd. Cafodd Jacob brif rôl yng nghynhyrchiad y Coleg o ‘Orpheus in the Underworld’ (Offenbach), yn ogystal â rôl unawdol yn ‘Alcina’ (Handel). Mae hefyd yn aelod o Gôr Siambr y Coleg ac wedi canu ochr yn ochr ag aelodau o Gorws Opera Cenedlaethol Cymru.

Proffiliau myfyrwyr eraill