Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

HoWang Yuen

Blwyddyn graddio: 2025

Mae’r bariton HoWang Yuen, a aned yn Hong Kong, yn astudio opera yn Ysgol Opera David Seligman yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Cefnogir ei astudiaethau yn y Coleg gan Ysgoloriaeth Gelfyddydau Ymddiriedolaeth Leverhulme ac Ysgoloriaeth CBCDC. Mae hefyd wedi graddio o Academi Celfyddydau Perfformio Hong Kong a Chonservatoire Brenhinol Birmingham.

Mae perfformiadau diweddar HoWang yn cynnwys adfywiad Silent Opera o’u hopera wobrwyedig Vixen yng Ngŵyl Gelfyddydau Hong Kong, rôl Sasha yng nghynhyrchiad Opera Ieuenctid Opera Cenedlaethol Cymru o Cherry Town, Moscow, a’r opera siambr gyfoes The Monster of the Gao Village yng Ngŵyl Opera Tête à Tête.

Proffiliau myfyrwyr eraill