Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Conor Cooper

Blwyddyn graddio: 2024

Mae Conor, y bas-bariton o Iwerddon, ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer gradd MMus mewn Perfformio Llais Clasurol yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru dan arweiniad Geoff Moses ac Alex Jenkins. Nyrs yw Conor wrth ei alwedigaeth ond mae wedi dewis astudio mewn conservatoire er mwyn dilyn ei angerdd am gerddoriaeth. Ymhlith ei rolau diweddar mae Drunken Poet yn The Fairy Queen gan Purcell, Swallow yn Peter Grimes gan Britten yn CBCDC yn ogystal â Monsieur Javelinot yn Dialogues of the Carmélites Poulenc gydag Ysgol Opera David Seligman. Ymhlith ei berfformiadau diweddar mae canu fel unawdydd bas ar gyfer Côr Bach Abertawe yn eu perfformiad o Petite Messe Solennelle gan Rossini.

Proffiliau myfyrwyr eraill