Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Beth Lewin

Blwyddyn graddio:

Graddiodd y soprano Beth Lewin o Brifysgol Birmingham ac yna ennill ôl-radd mewn Astudiaethau Llais yn CBCDC, lle cyrhaeddodd rownd gynderfynol Gwobr Syr Ian Stoutzker, rownd derfynol Gwobr Opera Janet Price a derbyn Gwobr Dolan Evans yr Arglwydd Rowe Beddoe.

Mae ei pherfformiadau blaenorol yn cynnwys: Zerlina, Don Giovanni (CBCDC), Carmina Burana (Côr Bach Leamington Spa), perfformiad première o ‘redmoonsong’ John Hardy, ‘A Midsummer Night’s Dream’ a ‘La bela dormante nel bosco’ (i gyd yn CBCDC); ‘Il Signor Bruschino’ (Birmingham South Opera).

Cefnogir astudiaethau Beth gan Wobr Opera Sybil Tutton Help Musicians, Gwobr Eileen Price McWilliam, er cof am ei meibion Alastair a David McWilliam ac Ysgoloriaeth Ted a Val Yates.

Proffiliau myfyrwyr eraill