Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Abigail Fraser

Blwyddyn graddio:

Mae Abigail Fraser, y mezzo-soprano o’r Alban, yn ail flwyddyn ei hastudiaethau yn Ysgol Opera David Seligman. Cyn dechrau ar y cwrs hwn, graddiodd gyda Rhagoriaeth mewn MMus mewn Perfformio Llais yn CBCDC.

Mae ei pherfformiadau diweddar yn cynnwys dirprwyo ar gyfer rôl Vava a chanu yng Nghorws cynhyrchiad newydd WNO o Cheryomushki, Mutter yn Hänsel und Gretel, Y Fam Jeanne yn Dialogues of the Carmelites (CBCDC) a Madame de La Haltiere yn Cendrillon (Gala Opera WNO).

Cefnogir astudiaethau Abigail yn hael gan Ysgoloriaeth Opera Starmer Jones, Ysgoloriaeth Cronfa Elusennol Jock French ac Ysgoloriaeth CBCDC.

Proffiliau myfyrwyr eraill