Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Rhyddid gwybodaeth

Diben Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yw hybu’r arfer o fod yn agored ac yn atebol ledled y sector cyhoeddus. Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn rhoi hawl i unigolion ofyn am wybodaeth sy'n cael ei chadw gan gyrff cyhoeddus. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i'r Coleg sicrhau bod y wybodaeth ar gael, oni bai bod eithriadau ar waith.

Dan y Ddeddf, mae'n ofynnol i'r Coleg gynhyrchu a chynnal Cynllun Cyhoeddi sy'n nodi'r wybodaeth sydd ar gael fel mater o drefn. Gellir dod o hyd i lawer o'r wybodaeth hon ar wefan y Coleg

Os nad yw'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar gael yn y Cynllun Cyhoeddi, gallwch anfon eich cais yn ysgrifenedig at:

Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau,

Coleg Brenhinol Cerdd A Drama Cymru

Maes y Castell

Parc Cathays

Caerdydd

CF10 3ER Neu drwy e-bost i info@rwcmd.ac.uk

Y Cynllun Cyhoeddi

Mae'n bwysig bod cynllun cyhoeddi'r Coleg yn diwallu'ch anghenion. Os ydych yn ei chael hi'n anodd deall y cynllun, rhowch wybod i ni. Rydym hefyd yn croesawu awgrymiadau ynghylch sut gellid gwella'r cynllun. Gallwch gyflwyno unrhyw gwestiynau neu sylwadau am y cynllun trwy ysgrifennu atom yn y cyfeiriad isod neu anfon e-bost atom i info@rwcmd.ac.uk