Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Newyddion

Coleg Brenhinol Cymru yn Cyhoeddi ‘Addewid’ gwerth £5 Miliwn i fod yn ‘Gonservatoire cynhwysol, a arweinir gan ddiwydiant sy’n canolbwyntio ar y dyfodol’

Heddiw cyhoeddodd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ei strategaeth Addewid newydd. Fel Conservatoire Cenedlaethol Cymru mae’n addo ehangu ei gyrhaeddiad a’i ddylanwad, a thrawsnewid ymhellach ei gynnig i fyfyrwyr, gan ddathlu ei ben-blwydd yn 75 oed yn 2024 fel hyb sgiliau creadigol o’r radd flaenaf.

Rhannu neges

Categorïau

Datblygiad

Dyddiad cyhoeddi

Published on 28/09/2021

Yr ‘Addewid’ o £5 miliwn


Cefnogir Addewid gan gynllun buddsoddi cynaliadwy y mae’r Coleg eisoes wedi’i roi ar waith a thrwy ymgyrch codi arian gwerth £5 miliwn i gefnogi nodau penodol. Mae uchelgais y strategaeth eisoes wedi ysbrydoli Sefydliad Mosawi i gyfrannu rhodd arweiniol cyntaf o £1 miliwn, y rhodd dyngarol unigol mwyaf i’r Coleg ei dderbyn yn ei hanes.

'Mae potensial cenedlaethau’r dyfodol yn ganolog i strategaeth y llywodraeth yng Nghymru ac mae gan y celfyddydau ran amlwg i’w chwarae, gan gyfrannu at dwf economaidd ac adferiad dinasoedd wedi’r pandemig, yn ogystal â bod yn rym cadarnhaol hollbwysig ar gyfer lles a chreadigrwydd, gan gael effaith gref ar fywydau unigolion a chymunedau.

Gan weithio gyda llif cyson o artistiaid ifanc o bob rhan o’r byd, mae Coleg Brenhinol Cymru mewn sefyllfa unigryw i gyfrannu’n sylweddol i enw da Cymru yn fyd-eang fel gwlad greadigol, tra’n gwneud yn siŵr bod y manteision y mae’n eu cynnig hefyd yn cyrraedd yn eang ac yn ddwfn drwy’r wlad i gyd.

Dros y pum mlynedd nesaf, er y bydd rhagoriaeth a pherfformio yn parhau wrth galon popeth a wnawn, byddwn yn dod yn fath gwahanol o gonservatoire, un sy’n fwy perthnasol, amrywiol, hygyrch, cysylltiedig ac ymgysylltiol. Trwy gyfleoedd ehangach a dyfnach i ymgysylltu yn y celfyddydau, rydym yn addo bod yn rhan o adferiad y wlad wedi Covid-19 a chanolbwyntio ar ddulliau hirdymor i wella lles a chynhwysiant cymdeithasol, a sicrhau effaith economaidd i Gymru.'
Professor Helena GauntPrincipal CBCDC

Yn ogystal ag amlygu’r addewid a’r potensial sy’n gynhenid ymhlith pobl ifanc, mae enw’r ymgyrch yn adlewyrchu ymrwymiad y Coleg i feithrin talent artistig, annog amrywiaeth a darparu cyfleoedd hyfforddiant i’r rheini sy’n eithriadol ddawnus, waeth beth fo’u cefndir economaidd neu gymdeithasol.

Yn ystod y pum mlynedd nesaf mae’r Coleg yn addo’r canlynol:

• Dyblu nifer yr ysgoloriaethau y mae’n eu cynnig, sefydlu Cronfa Bwrsariaeth newydd a hefyd cynyddu symudedd cymdeithasol i’r celfyddydau drwy fenter “llwybrau” newydd
• Ehangu nifer y bobl sy’n ymgysylltu â’r Coleg drwy ei raglen berfformio ddigidol, teithiau ehangach dan arweiniad myfyrwyr yng Nghymru a datblygu cydweithrediadau artistig datblygedig a phartneriaethau newydd ar draws Cymru ac yn rhyngwladol
• Darparu mwy o gyfleoedd i bobl ifanc ledled Cymru brofi’r celfyddydau drwy ail-ganolbwyntio ei hyfforddiant arbenigol ar gyfer pobl ifanc dan 18 oed, cefnogi’r cwricwlwm celfyddydau mynegiannol newydd yn ysgolion y wlad a hyfforddi ei fyfyrwyr i fod yn athrawon a mentoriaid
• Archwilio’r potensial ar gyfer cyfnod preswyl sefydledig yng nghanol dinas Caerdydd, gan wneud defnydd o wagle nas defnyddir, creu lle ar gyfer cyrsiau newydd a chynnig perfformiadau a chyfranogiad cyhoeddus, yn arbennig ar gyfer plant oed ysgol.

'Fel teulu a sefydliad rydym wedi bod yn agosáu at y Coleg dros y saith blynedd ddiwethaf ac wedi cael ein hysbrydoli gan wytnwch, gweledigaeth greadigol a phenderfyniad ei arweinwyr dros y cyfnod hwn a, phob amser, gan y bobl ifanc ddawnus sy’n dod i mewn ac allan drwy ei ddrysau.

Mae ein rhodd yn ymateb i gynlluniau cyffrous ac uchelgeisiol y credwn ni sy’n haeddu sylw a chefnogaeth sylweddol ac rydym wedi rhoi yn gynnar er mwyn annog eraill ac yn y gobaith nad ein rhodd ni fydd y swm saith ffigur olaf y bydd menter Addewid yn ei dderbyn.

Rydym hefyd yn gobeithio y bydd y codi arian yn cael ei gyfoethogi drwy gyfranogiad llawer iawn o bobl lle bynnag y byddant yn y byd, a fydd eisiau ychwanegu eu haddewidion hwythau hefyd, felly rydym yn dal peth o’n rhodd yn ei ôl fel cyllid cyfatebol i annog rhoddion llai hollbwysig.'
Ali MosawiSefydliad Mosawi
'Mae Addewid yn ymwneud â dod allan o’r pandemig ar y droed flaen, yn gryfach ac yn fwy uchelgeisiol nag o’r blaen. Mae’n arbennig o wych i fod wedi derbyn y rhodd cyntaf gan deulu Mosawi, sydd eisoes wedi bod mor gefnogol i ni a’n myfyrwyr, ac ni allaf ddiolch digon iddynt am ymddiried ynom.

Fodd bynnag, mae cryn ffordd i fynd er mwyn datgloi’n llwyr botensial y Coleg a chyflawni ein holl addewidion. Fel y dywed Ali, rydym yn gobeithio y bydd yr ymgyrch hon yn ysbrydoli’r cyhoedd i wneud eu ‘haddewid’ eu hunain i gefnogi ein conservatoire cenedlaethol ac y byddant nawr yn ystyried ymuno â’n cynlluniau aelodaeth, rhodd etifeddol neu drwy enwi sedd yn un o’n mannau perfformio.

Rydym hefyd eisiau siarad â busnesau yng Nghymru ynglŷn â’r ffyrdd y gallant hwy chwarae rhan, gan gynnwys noddi cynyrchiadau cyhoeddus a thrwy ddarparu bwrsariaethau i fyfyrwyr o gefndiroedd economaidd gymdeithasol tlotach.'
Athro Helena GauntPrincipal CBCDC

Nodiadau i olygyddion

Ffurfiwyd Sefydliad Mosawi yn 2014 gan Ali a May Mosawi, cynfyfyriwr yn CBCDC. Ali yw cadeirydd a phrif gyfranddaliwr swyddfa Al Hayat Scientific yn Baghdad sy’n dosbarthu deunydd fferyllol cwmnïau rhyngwladol megis AstraZeneca a Pfizer. Nod y Sefydliad yw bod yn gatalydd i annog eraill i ymuno a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a chefnogi elusennau o dan y categorïau ieuenctid a chymunedau, meithrin talent, gofal iechyd a lliniaru trawma a gwaith allgymorth i’r rheini sydd wedi’u hymylu.

Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama, Conservatoire Cenedlaethol Cymru, a rhan o Grŵp Prifysgol De Cymru, yn gweithredu o fewn ei grŵp cymheiriaid rhyngwladol o gonservatoires a cholegau celfyddydau arbenigol. Mae’n hyfforddi artistiaid ifanc a ddaw o tua 50 o wledydd er mwyn darparu llif cyson o ddoniau newydd i’r diwydiannau cerddoriaeth a theatr a phroffesiynau cysylltiedig. Yn 2020 daeth y Coleg yn ‘Gonservatoire Steinway yn Unig’ cyntaf Ewrop, gan dderbyn 24 piano Steinway ychwanegol er mwyn creu fflyd o bianos Steinway Gyfan o’r radd flaenaf.

Negeseuon newyddion eraill