Neidio i’r prif gynnwys

Casgliadau arbennig ac Archifau

Mae ein harchifau a’n casgliadau arbennig yn adnoddau amhrisiadwy i fyfyrwyr, perfformwyr, ymchwilwyr ac aelodau o’r cyhoedd sydd â diddordeb yn hanes cerddoriaeth a theatr yng Nghymru a thu hwnt.

Maent yn cynnwys archifau sefydliad y Coleg ei hun, archifau a llawysgrifau sawl cyfansoddwr (gan gynnwys Mervyn Burtch, Alun Hoddinott, Graham Whetham, Mansel Thomas, a David Harries), rhai o lawysgrifau ac archifau Cymdeithas Drama Cymru, archif Cerddorfa Ieuenctid Morgannwg, a Chasgliad Opera Rara Foyle.

Trefniadau mynediad

Trefnwch apwyntiad i edrych drwy’r archifau a’r casgliadau arbennig, drwy gysylltu ag archives@rwcmd.ac.uk.

Efallai y bydd cyfyngiadau ar rai deunyddiau oherwydd eu cyflwr, eu sensitifrwydd neu eu cyfrinachedd, ac efallai y bydd angen caniatâd ychwanegol i gael mynediad at y deunyddiau hyn. Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru wedi ymrwymo i ddarparu mynediad i’w archifau i gefnogi ymchwil a dysgu, gan sicrhau bod y deunyddiau’n cael eu cadw a’u diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol ar yr un pryd.

Catalogau

Mae catalogau ein harchifau ar gael ar Archives Hub


Archwilio’r adran