

Adnoddau ar gyfer eich pwnc
Gweler ein rhestr yn nhrefn yr wyddor, isod, am gronfeydd data allweddol, e-lyfrau ac e-gyfnodolion sydd ar gael i staff a myfyrwyr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a phori am drama (D) neu cerddoriaeth (C).
Drama (D) Cerddoriaeth (C) | D C |
---|---|
Gwybodaeth am ffynonellau cyllid eraill – yn enwedig elusennau – sy’n dyfarnu arian (ffioedd, cynhaliaeth, costau ymchwil) i unrhyw fyfyriwr, waeth beth fo’r pwnc neu genedligrwydd. Mae’n cynnwys cronfa ddata enfawr o gyfleoedd cyllido, canllaw cynhwysfawr, a nifer o adnoddau i’ch helpu chi i baratoi cais grant buddugol. |
Drama (D) Cerddoriaeth (C) | D C |
---|---|
Newyddion a gwybodaeth i reolwyr celfyddydau a’r rheini sydd â diddordeb proffesiynol yn y sector celfyddydau. |
B
Drama (D) Cerddoriaeth (C) | C |
---|---|
Mynediad ar-lein (o 1997 ymlaen) i’r cyfnodolyn rhyngwladol hwn. Mae’n cynnwys addysgu a dysgu cerddoriaeth mewn cyd-destunau ffurfiol ac anffurfiol gan gynnwys addysgu offerynnol a lleisiol a cherddoriaeth mewn lleoliadau cymunedol. |
C
Drama (D) Cerddoriaeth (C) | D C |
---|---|
Fynediad at dros 2000 o e-lyfrau ar ystod o bynciau sy’n ymwneud â cherddoriaeth a drama: ‘Ffilm, Cyfryngau, Cyfathrebu Torfol’, ‘Drama, Theatr, Astudiaethau Perfformiad’, ‘Cerddoriaeth’, a ‘Celfyddyd’. Dewiswch ‘Only search content I have access to’ i weld y teitlau perthnasol. Nodwch: adolygir y tanysgrifiadau hyn ym mis Hydref 2022. |
D
Drama (D) Cerddoriaeth (C) | C |
---|---|
Gwefan i ddod o hyd i gerddoriaeth gerddorfaol, sy’n darparu mynediad at wybodaeth am fwy na 13,700 o weithiau gan fwy na 2,100 o gyfansoddwyr. Mae’r opsiwn chwilio uwch yn caniatáu ichi chwilio yn ôl hyd, offeryniaeth, math corws, ac unawdwyr. Gallwch hefyd chwilio ariâu opera, cytganau deuawd, a mwy, gan ddefnyddio’r darganfyddwr dyfyniadau opera. |
Drama (D) Cerddoriaeth (C) | D |
---|---|
Casgliad o ffilmiau o brif gynyrchiadau theatr Prydain, rhaglenni dogfen y tu ôl i’r llenni, ac adnoddau addysgu a dysgu. |
Drama (D) Cerddoriaeth (C) | D |
---|---|
Casgliad o destunau drama yn cynnwys rhestrau theatr gan Methuen Drama, the Arden Shakespeare, Faber and Faber a Nick Hern. |
E
Drama (D) Cerddoriaeth (C) | D C |
---|---|
Mae EThOs yn un o adnoddau’r Llyfrgell Brydeinig sy’n eich galluogi i chwilio 500,000 a mwy o draethodau ymchwil doethuriaeth y DU ar-lein. |
Drama (D) Cerddoriaeth (C) | C |
---|---|
Mynediad i rifynnau digidol y cylchgronau a’r cyfnodolion cerdd hyn: BBC Music; Choir & Organ; International Piano; Jazzwise; The Musical Times; Opera Now a The Strad. Cliciwch ar ‘Log in’ ar frig y sgrin ac yna dewiswch ‘Click here to log in as RWCMD’. |
F
Drama (D) Cerddoriaeth (C) | D C |
---|---|
Gall aelodau staff a myfyrwyr CBCDC gael mynediad i e-adnoddau penodol o Brifysgol De Cymru. Mae hyn yn cynnwys cronfeydd data gyda chynnwys ar iechyd, seicoleg, addysg a theatr. |
G
Drama (D) Cerddoriaeth (C) | C |
---|---|
Mynediad llawn i destun y Grove dictionaries of Music and Musicians, Opera and Jazz |
I
Drama (D) Cerddoriaeth (C) | C |
---|---|
Trawsgrifiadau a chyfieithiadau llythrennol o ariâu opera a thestunau caneuon celf mewn sawl iaith. |
J
Drama (D) Cerddoriaeth (C) | D C |
---|---|
Mynediad i erthyglau ar-lein o gyfnodolion cerddoriaeth amrywiol, gan gynnwys rhywfaint o gynnwys perthnasol ar gyfer myfyrwyr drama. |
M
Drama (D) Cerddoriaeth (C) | D C |
---|---|
Papurau ymchwil a adolygir gan gymheiriaid yn cynnwys materion iechyd sy’n gysylltiedig ag actorion, dawnswyr, cantorion, cerddorion a pherfformwyr eraill. |
Drama (D) Cerddoriaeth (C) | D C |
---|---|
Mae Medici TV yn darparu mynediad at 3,500 o weithiau cerddorol a ffilmiwyd o’r 1940au hyd heddiw, a dros 150 o ddigwyddiadau byw a ffrydir bob blwyddyn o leoliadau mwyaf mawreddog y byd. Mae hefyd yn cynnwys 3,000 o ffilmiau gan gynnwys cyngherddau, operâu, bale, rhaglenni dogfen a dosbarthiadau meistr. |
Drama (D) Cerddoriaeth (C) | C |
---|---|
Cyfres o bedair cyfrol o sgoriau cerddoriaeth sy’n cwmpasu’r prif genres cerddoriaeth glasurol a chyfnodau amser, o’r Oesoedd Canol i’r 21ain ganrif. Cliciwch ar ‘My Collections’ a dewiswch y ddolen ‘Music Online: Classical Scores Library’ i bori drwy’r casgliad. |
N
Drama (D) Cerddoriaeth (C) | C |
---|---|
Casgliad chwiliadwy o gerddoriaeth allweddellau Cymru o’r 18fed i’r 21ain ganrif, yn dwyn ynghyd wybodaeth a gedwir mewn sawl archif a llyfrgell, ynghyd â dolenni i wybodaeth am cyfansoddwyr Cymreig, recordiadau a ffynonellau defnyddiol eraill. Crëwyd yr adnodd hwn gan Zoë Smith, pianydd a Phennaeth Rhaglenni Ôl-raddedig (Cerddoriaeth) yn CBCDC. |
Drama (D) Cerddoriaeth (C) | C |
---|---|
Llyfrgell wrando helaeth o draciau cerddoriaeth glasurol. |
Drama (D) Cerddoriaeth (C) | C |
---|---|
Llyfrgell fideo’r celfyddydau perfformio gan gynnwys operâu, bale, rhaglenni dogfen, cyngherddau byw. |
Drama (D) Cerddoriaeth (C) | D and C |
---|---|
Llyfrgell fideo’r celfyddydau perfformio gan gynnwys operâu, bale, rhaglenni dogfen, cyngherddau byw. |
Drama (D) Cerddoriaeth (C) | C |
---|---|
Mae NKODA yn wasanaeth tanysgrifio cerddoriaeth ddalen y gellir ei gyrchu trwy ap ar eich ffôn, llechen neu gyfrifiadur pen desg. Dilynwch y cyfarwyddiadau i sefydlu’ch mynediad trwy danysgrifiad CBCDC. |
O
Drama (D) Cerddoriaeth (M) | C |
---|---|
Mae casgliad cerddoriaeth Oxford Handbooks yn darparu mynediad at ysgolheictod cyfredol ym mhob maes ymchwil cerddoriaeth gan gynnwys cerddoleg hanesyddol, ethnogerddoreg, theori, addysgeg, dawns a thechnoleg. Chwilio yn ôl allweddair, os gwelwch yn dda. |
Drama (D) Cerddoriaeth (M) | C |
---|---|
Fersiwn ar-lein hanes pum cyfrol Richard Taruskin o esblygiad cerddoriaeth y Gorllewin. |
Drama (D) Cerddoriaeth (M) | C |
---|---|
Mynediad llawn i destun y Grove dictionaries of Music and Musicians, Opera and Jazz; Oxford Companion to Music; Oxford Dictionary of Music. |
R
Drama (D) Cerddoriaeth (C) | C |
---|---|
Cronfa ddata gynhwysfawr o gerddoriaeth ryngwladol gan gynnwys crynodebau a thestun llawn o nifer o gyfnodolion, ac adnoddau defnyddiol eraill. |
Drama (D) Cerddoriaeth (C) | C |
---|---|
Catalog ar-lein o ffynonellau gwreiddiol cerddoriaeth (llawysgrifau (cyhoeddwyd 1600-1850) neu gerddoriaeth argraffedig (a gyhoeddwyd cyn 1900), ysgrifennu ar theori cerddoriaeth, a libretti) ar gael ledled y byd. |
Drama (D) Cerddoriaeth (C) | C |
---|---|
Catalog ar-lein o lawysgrifau cerddoriaeth ca. 1600 – ca. 1800, a cherddoriaeth argraffedig cyn ca. 1800 yn Llyfrgelloedd y DU. Mae’r catalog hwn yn is-set o brif gatalog ar-lein RISM. |
S
Drama (D) Cerddoriaeth (C) | D C |
---|---|
Rydym yn tanysgrifio i amrywiaeth eang o gyfnodolion Sage gan gynnwys: British Journal of Music Therapy, Psychology of Music, Journal of Research in Music Education, International Journal of Music Education, General Music Today, Clothing and Textiles Research Journal. |
Drama (D) Cerddoriaeth (C) | D |
---|---|
Yn ogystal â’n tanysgrifiad print, gall staff a myfyrwyr gyrchu dwy flynedd o rifynnau digidol o bapur newydd The Stage ar-lein. |
T
Drama (D) Cerddoriaeth (C) | C |
---|---|
Mynediad ar-lein (o 2003 ymlaen) i’r cylchgrawn cerddoriaeth hwn sy’n arbenigo mewn cerddoriaeth yr 20fed ganrif a cherddoriaeth gyfoes. |
Drama (D) Cerddoriaeth (C) | D C |
---|---|
Mynediad ar-lein i’r cyfnodolyn a adolygwyd gan gymheiriaid hwn, sy’n cyhoeddi ymchwil ar hyfforddiant perfformio gan ymarferwyr, academyddion ac artistiaid creadigol. |
Drama (D) Cerddoriaeth (C) | D |
---|---|
Mynediad ar-lein (o 1981 ymlaen) i’r cyhoeddiad theatr hwn sy’n adargraffu yn llawn yr adolygiadau gan feirniaid drama genedlaethol o gynyrchiadau yn Llundain a thu hwnt, gyda rhestrau cast a chredydau llawn yn ogystal â lluniau cynyrchiadau. |
Drama (D) Cerddoriaeth (C) | D |
---|---|
Casgliadau o destunau dramâu, perfformiadau sain a fideo, rhaglenni dogfen a chyfoeth o gynnwys ychwanegol sy’n gysylltiedig â theatr. Dewiswch ‘My Collections’ i bori drwy’r adnoddau sydd ar gael neu chwilio yn ôl allweddair. |
Drama (D) Cerddoriaeth (C) | D C |
---|---|
Gallwch chwilio drwy 200 a mwy o flynyddoedd o’r papur newydd The Times ar-lein mewn fformat testun copi cywir llawn. Mae’r archif yn cynnwys gwybodaeth am sawl pwnc, gan gynnwys busnes, y dyniaethau, gwyddoniaeth wleidyddol ac athroniaeth, yn ogystal ag adroddiadau am y prif ddigwyddiadau hanesyddol rhyngwladol. |
Drama (D) Cerddoriaeth (C) | C |
---|---|
Mynediad ar-lein (o 2004 ymlaen) i’r cyfnodolyn hwn sy’n lledaenu gwaith ymchwil ar bob agwedd ar gerddoriaeth yn yr ugeinfed ganrif. |
V
Drama (D) Cerddoriaeth (C) | D C |
---|---|
Porwch y casgliad o e-lyfrau a brynwyd gan Lyfrgell CBCDC. Dewiswch ‘All eBooks’ i weld y rhestr o’r holl deitlau sydd ar gael neu chwilio yn ôl allweddair. Gellir hefyd dod o hyd i ddolenni i e-lyfrau unigol trwy chwilio catalog y Llyfrgell. |