Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Cerddoriaeth

Gŵyl Awyrgylch 2026: Taith Sain

Gwybodaeth

Ewch am dro trwy ddinas Caerdydd yng nghwmni Cyfansoddwyr CBCDC! Mae Taith Sain Awyrgylch yn lleoli darnau a grëwyd gan gerddorion y Coleg mewn ardaloedd penodol yn y ddinas; cerddwch a gwrandewch gan ddefnyddio Ap Echoes.

Lawrlwytho'r ap Echoes

Mwy o wybodaeth

Mae profiad Soundwalk ar ei orau gyda chlustffonau.

Cofiwch fod yn ymwybodol o’r hyn sydd o’ch cwmpas yn ystod y daith gerdded. Mewn mannau bydd y llwybr yn mynd â chi yn agos i ffyrdd, ac ar adegau efallai y bydd angen i chi groesi. Byddwch yn ofalus yn yr ardaloedd hyn. Efallai y bydd angen i chi dynnu’ch clustffonau ar adegau penodol er mwyn diogelwch.

Tim creadigol

Cyfansoddwyr Charlie Jones, Elaina Sophie, Harry Lewis, Nina Martin, Louis Villard, Max Fowler, Valerie Astrid, Qaira Ní Mórdha, Jai Martone, Micah Hedges, Artie Holmes, Xander Wallis & Rhian Christabel

Cynhyrchydd Finn Heathfield

Digwyddiadau eraill cyn bo hir