Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Cerddoriaeth

RWCMD Big Band: Gordon Goodwin’s Big Phat Band

  • Trosolwg

    Iau 21 Mai 7.45pm

  • Lleoliad

  • Prisiau

    £9 - £18

Tocynnau: £9 - £18

Lleoliad:

Gwybodaeth

Gyda elfennau o arddull band mawr y 1930au/40au ac ychydig o ffync a chyfuniad jazz, dechreuwch y penwythnos gyda Band Mawr CBCDC a Ceri Rees wrth iddynt eich gwahodd i brofi dawn arwain bandiau hyfryd a llawn grŵf y diweddar Gordon Goodwin a’i Big Phat Band a enillodd wobr Grammy. 

Roedd Goodwin yn sacsoffonydd a phianydd penigamp, yn gweithio gyda rhai o’r mawrion gan gynnwys Ray Charles, Christina Aguilera, Johnny Mathis, John Williams, Natalie Cole, David Foster, Sarah Vaughan a Quincy Jones, ac nid oedd diwedd ar ei ddawn cyfansoddi a threfnu a oedd hefyd yn cynnwys ysgrifennu ar gyfer ffilmiau megis The Incredibles a The Lion King gan Disney Pixar.

“Wrth wrando ar Big Phat Band Gordon Goodwin, cefais fy swyno ar unwaith gan safbwynt cerddorol cyfoes Gordon… a chyffro ei sain.”
Quincy Jones

Digwyddiadau eraill cyn bo hir