

Cwmni Richard Burton
Henry V gan William Shakespeare
Trosolwg
Gwe 23 - 27 Maw Hyd | 7.15pm 2pm
Lleoliad
Prisiau
£8 - £16
Oedran
+14
Tocynnau: £8 - £16
Wrthi’n llwytho...
Gwybodaeth
Once more unto the breach, dear friends, once more'. Dyn ifanc gwyllt un diwrnod, Brenin Lloegr y diwrnod nesaf. Bron cyn gynted ag y caiff ei goroni a’i orseddu, mae Henry V yn rhoi ei fryd ar gaffael un arall. A wnaiff yr arweinydd penderfynol hwn ysgogi ei fyddin a threchu’r Ffrancwyr? Mae drama hanesyddol Shakespeare yr un mor berthnasol heddiw ag yr oedd pan gafodd ei hysgrifennu dros bedwar cant o flynyddoedd yn ôl.
Gan William Shakespeare
Cyfarwyddwr Iqbal Khan
Cwmni Richard Burton
Mae cwmni theatr mewnol Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Cwmni Richard Burton, yn cynnwys actorion, rheolwyr llwyfan, cynllunwyr theatr a pherfformwyr theatr gerddorol sydd yn eu blwyddyn olaf o hyfforddiant yn y Coleg. Fel un o gwmnïau repertoire mwyaf toreithiog Cymru, mae’n ail-ddychmygu clasuron trwy lens fodern, ac yn cyflwyno drama gyfoes, ysgrifennu newydd a theatr gerddorol sy’n adlewyrchu cymdeithas heddiw. Gan lwyfannu niferus o gynyrchiadau bob blwyddyn i gynulleidfaoedd Caerdydd a Llundain, mae’n grymuso ei myfyrwyr fel artistiaid creadigol, gan weithio gyda rhai o wneuthurwyr theatr gorau’r DU ac arweinwyr y diwydiant gyda ffocws proffesiynol.








