Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Theatr Gerddorol

Guys and Dolls

  • Trosolwg

    1 - 6 Gorff

  • Lleoliad

    Theatr Sherman

  • Prisiau

    £12.50 - £25

  • Oedran

    12+

Tocynnau: £12.50 - £25

Lleoliad: Theatr Sherman

Gwybodaeth

Chwedl gerddorol o Broadway

Dewch i gwrdd â Nathan Detroit, gamblwr, sy’n ceisio trefnu gêm dis Craps fwyaf Efrog Newydd tra bod yr heddlu ar ei ôl, a Sky Masterson, a fetiodd y gallai ennill calon y genhades Sarah Brown. Mae’r sioe gyffrous hon sydd wedi’i thrwytho ym myd annymunol gangsters Efrog Newydd yn y 1950au, yn gwibio rhwng caffis Havana a charthffosydd y ddinas. Wedi’i pherfformio gan Gwmni Richard Burton, bydd y clasur o gomedi ramantus hon yn eich denu i gyd-ganu caneuon eiconig megis ‘I’ve Never Been in Love Before’, ‘Sit Down, Your Rockin’ the Boat’ a ‘Luck Be a Lady’.

Mae Guys and Dolls wedi dod yn un o’r sioeau cerdd Americanaidd gorau erioed!

Cyflwynir Guys and Dolls trwy drefniant arbennig gyda Music Theatre International (MTI). Mae’r holl ddeunyddiau perfformio awdurdodedig hefyd yn cael eu cyflenwi gan MTI. www.mtishows.com

Gan Abe Burrows & Jo Swerling

Cerddoriaeth a geiriau gan Frank Loesser

Yn seiliedig a'r stori a chymeriadau Damon Runyon

Cyfarwyddwr Omar F Okai

Cyfarwyddwr Cerdd Barnaby Southgate

Choreograffydd Simone Mistry-Palmer

Cwmni Richard Burton

Mae cwmni theatr mewnol Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Cwmni Richard Burton, yn cynnwys actorion, rheolwyr llwyfan, cynllunwyr theatr a pherfformwyr theatr gerddorol sydd yn eu blwyddyn olaf o hyfforddiant yn y Coleg. Fel un o gwmnïau repertoire mwyaf toreithiog Cymru, mae’n ail-ddychmygu clasuron trwy lens fodern, ac yn cyflwyno drama gyfoes, ysgrifennu newydd a theatr gerddorol sy’n adlewyrchu cymdeithas heddiw. Gan lwyfannu niferus o gynyrchiadau bob blwyddyn i gynulleidfaoedd Caerdydd a Llundain, mae’n grymuso ei myfyrwyr fel artistiaid creadigol, gan weithio gyda rhai o wneuthurwyr theatr gorau’r DU ac arweinwyr y diwydiant gyda ffocws proffesiynol.

Digwyddiadau eraill cyn bo hir