

Theatr Gerddorol
Cry-Baby: The Musical
Trosolwg
Sad 14 Chwe - Iau 19 Chwe
Lleoliad
Prisiau
£8 - £16
Oedran
12+
Tocynnau: £8 - £16
Gwybodaeth
Gan awduron Hairspray, bydd gwrthryfel cwlt glasurol John Waters yn ffrwydro ar y llwyfan gyda riffiau gitâr, camymddwyn a dychan hyfryd o’r 1950au. Dewch i gwrdd â Wade “Cry Baby” Walker, bachgen da mwyaf drwg Baltimore, ac Allison, y ferch annwyl sy’n syrthio mewn cariad ag ef a’i griw o alltudion mewn lledr. Wrth i aelodau traddodiadol cymdeithas ddatgan rhyfel yn erbyn y criw roc a rôl anaddas, mae’r sioe gerdd ogoneddus, aflonydd hon yn tanio’n derfysg o ramant, gwrthryfel a rocio.
Gyda’i ffraethineb miniog a’i hiwmor tafod yn y boch, nid sioe gerdd hyfryd nodweddiadol yw hon, mae’n daith anarchaidd lawen i gynulleidfaoedd sy’n hoffi eu sioeau’n llawn comedi clyfar a chaneuon rhyfygus megis “Girl, Can I Kiss You With Tongue”. Byddwch yn barod am daith wyllt trwy ffasâd sgleiniog America a’r anhrefn difyr sy’n gorwedd oddi tano.
Cyflwynir Cry-Baby trwy drefniant arbennig gyda Music Theatre International (MTI). Mae’r holl ddeunyddiau perfformio awdurdodedig hefyd yn cael eu cyflenwi gan MTI. www.mtishows.com
Cyfarwyddwr Alex Sutton
Cyfarwyddwr Cerdd Jon Beales
Llyfr gan Thomas Meehan & Mark O’Donnell
Cerddoriaeth a geiriau gan Adam Schlesinger & David Javerbaum
Based on the Universal Pictures film written and directed by John Waters.
Cwmni Richard Burton
Mae cwmni theatr mewnol Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Cwmni Richard Burton, yn cynnwys actorion, rheolwyr llwyfan, cynllunwyr theatr a pherfformwyr theatr gerddorol sydd yn eu blwyddyn olaf o hyfforddiant yn y Coleg. Fel un o gwmnïau repertoire mwyaf toreithiog Cymru, mae’n ail-ddychmygu clasuron trwy lens fodern, ac yn cyflwyno drama gyfoes, ysgrifennu newydd a theatr gerddorol sy’n adlewyrchu cymdeithas heddiw. Gan lwyfannu niferus o gynyrchiadau bob blwyddyn i gynulleidfaoedd Caerdydd a Llundain, mae’n grymuso ei myfyrwyr fel artistiaid creadigol, gan weithio gyda rhai o wneuthurwyr theatr gorau’r DU ac arweinwyr y diwydiant gyda ffocws proffesiynol.








