Neidio i’r prif gynnwys

Gwybodaeth archebu

Gwybodaeth am eich tocynnau, archebion, consesiynau a thalebau rhodd.

Swyddfa Docynnau oriau agor

Oriau agor:

Dydd Llun hyd Ddydd Gwener
9.30am – 4.30pm

Ar nosweithiau pan gynhelir perfformiadau, bydd y Swyddfa Docynnau yn parhau ar agor am hyd at 30 munud wedi dechrau’r perfformiad olaf. Os cynhelir perfformiad ar naill ai Ddydd Sadwrn neu Ddydd Sul, bydd y Swyddfa Docynnau yn agor 2 awr cyn dechrau’r perfformiad hwnnw. Mae’r Swyddfa Docynnau wedi ei lleoli yn y prif gyntedd.

Archebu tocynnau

Gallwch archebu tocynnau gan ddefnyddio ein gwefan neu drwy gysylltu â'r Swyddfa Docynnau.

Gellir prynu tocynnau o’n Swyddfa Docynnau yn ystod oriau agor y Swyddfa Docynnau. Ymdrinnir â negeseuon a adewir ar y peiriant ateb y tu allan i oriau agor ac ar adegau prysur cyn gynted â phosibl. 

Nid ydym yn derbyn American Express. Bydd unrhyw archebion a bostir yn golygu ffi postio o £1.75. Fel arall, gellir casglu tocynnau am ddim o’r Swyddfa Docynnau yn ystod oriau agor neu eu hargraffu gartref.

Cyfnewid ac ad-daliadau

Ni ellir ad-dalu tocynnau. Fodd bynnag, gellir cyfnewid tocynnau am berfformiadau eraill, yn amodol ar argaeledd, a chyn belled ag y dychwelir y tocynnau i ni 24 awr cyn y digwyddiad. Byddwn hefyd yn ceisio ail-werthu unrhyw docynnau nad sydd eu hangen ar gyfer perfformiadau sydd wedi gwerthu’n llwyr, os dychwelir y tocynnau i ni 24 awr cyn y digwyddiad a chyn belled bod rhestr aros er mwyn gallu gwerthu tocynnau.

Consesiynau

Mae consesiynau yn gymwys i bobl dros 60 oed, myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr CBCDC, rhai dan 16 oed, Cyfeillion CBCDC a chwsmeriaid gydag anabledd (efallai y gofynnir i chi ddangos dull adnabod (ID) pan fyddwch yn eu prynu ac/neu yn eu casglu). Gall hyn amrywio yn dibynnu ar y perfformiad. Er mwynhad pob defnyddiwr argymhellwn yn gryf nad yw perfformiadau CBCDC yn addas ar gyfer plant dan 2 oed (oni nodir yn wahanol).

Hwyrddyfodiaid

Yn ystod rhai perfformiadau ni chaniateir mynediad i hwyrddyfodiaid. Efallai y gofynnir i chi aros am egwyl addas yn y perfformiad cyn mynd i’ch seddi. Bydd hyn yn ôl disgresiwn y Rheolwr ar Ddyletswydd.

Talebau rhodd

Bydd pawb yn mwynhau noson allan, sy’n gwneud ein Talebau Rhodd yn anrheg perffaith i aelodau teulu a ffrindiau. Maent ar gael mewn unrhyw symiau, holwch yn y Swyddfa Docynnau am ragor o wybodaeth.

Disgownt ar Docynnau Trwy Unite Students

Diolch i nawdd hael gan Unite Students, mae gan unrhyw fyfyriwr sy’n byw yn ei lety myfyrwyr yng Nghaerdydd hawl i docyn am £3 ar gyfer cynyrchiadau dethol.

Credydau Amser Tempo

Elusen gofrestredig yw Tempo sy’n gweithredu cynllun Credydau Amser. Mae’n gwobrwyo aelodau’r cyhoedd sy’n gwirfoddoli eu hamser i’r gymuned. Gall gwirfoddolwyr ennill credydau ar gyfradd o 1 awr am 1 credyd. Yna gellir defnyddio’r credydau hyn mewn sefydliad fel CBCDC sy’n rhan o’r rhwydwaith Credydau Amser.

Gallwch wario eich Credydau Amser ar nifer o’r perfformiadau a gynhelir yma yn amodol ar argaeledd. Y cyfan sydd ei angen arnom yw eich bod yn darparu 1 Credyd Amser am bob sedd yr ydych yn ei harchebu. Yn anffodus, ni fyddwn yn gallu derbyn Credydau Amser ar gyfer rhai perfformiadau a gall ein Swyddfa Docynnau roi mwy o wybodaeth i chi.

Telerau ac amodau

  • Cyfnewidir Credydau Amser am docynnau felly darparwch eich Credydau Amser pan fyddwch yn archebu.
  • Os ydych yn archebu dros y ffôn, rhaid rhoi Credydau Amser i’r Swyddfa Docynnau ar ddiwrnod/noson y perfformiad.
  • Ni fydd tocynnau a brynir dros y ffôn gyda Chredydau Amser yn cael eu postio.

Archwilio’r adran

Beth sydd ymlaen