Neidio i’r prif gynnwys

Cymdeithas Ddrama Cymru

Cymdeithas Ddrama Cymru (CDdC) oedd cartref i gasgliad benthyca mwyaf o sgriptiau Saesneg yn y DU. Yn 2014, trosglwyddodd y casgliad o destunau dramâu i Lyfrgell CBCDC ac mae bellach ar gael i’w logi i unigolion a grwpiau.

Beth sydd yng nghasgliad CDdC?

Mae’r casgliad yn cynnwys miloedd o ddramâu, gyda phwyslais ar setiau. Rydym wedi bod yn rhestru a threfnu’r casgliad yn raddol ac erbyn hyn rydym wedi ychwanegu 2500 a mwy o deitlau i’n catalog ar-lein. Dewiswch ‘Cymdeithas Ddrama Cymru’ o’r ddewislen a theipio eich termau chwilio yn y blwch. Fodd bynnag, os nad yw’r hyn rydych yn chwilio amdano yn ymddangos yn y canlyniadau chwilio, cysylltwch â ni fel y gallwn wirio a rhoi gwybod i chi a yw’n rhan o’n casgliad, gan mai rhan fach o’r casgliad cyfan yw hon.

Llogi drama

Er y gellir archebu dros y ffôn, gofynnwn lle bynnag y bo’n bosibl i chi ddefnyddio ein ffurflen archebu i anfon eich ceisiadau drwy’r post neu drwy e-bost. Fe’ch cynghorir i wneud cais am ddrama o leiaf wythnos ymlaen llaw, er mwyn rhoi amser i ni chwilio amdano, ei chasglu a’i phostio. Gallwn wneud hyn yn gyflymach yn aml iawn, ond tîm bach sydd yma ydym ac yn cynnal y gwasanaeth yn ogystal â gweithio yn y Llyfrgell, felly gall salwch neu wyliau staff achosi oedi.

Aelodaeth a chostau llogi

Mae tanysgrifiad aelodaeth flynyddol yn daladwy gan unigolion a grwpiau sydd am logi testunau drama o gasgliad CDdC.

Dalier sylw: mae aelodaeth y llyfrgell llogi yn gwbl ar wahân i unrhyw daliadau a wneir yn uniongyrchol i CDdC ac maen nhw’n gysylltiedig â chost CBCDC i ddarparu copïau benthyg o gasgliad CDdC.

Mae gan aelodau’r llyfrgell logi yr hawl i logi hyd at 10 teitl (sgriptiau drama sengl neu setiau) ar unrhyw adeg. Mae ffioedd llogi a chostau post yn daladwy ar bob eitem a fenthycir.

Mae manylion llawn am aelodaeth gyfredol a chostau llogi wedi’u rhestru yn nogfen y Aelodaeth ar gyfer casgliad CDdC.

I ddod yn aelod, a fyddech cystal â llenwi’r ffurflen aelodaeth a’i dychwelyd atom drwy’r post neu mewn e-bost.

Manylion cyswllt ar gyfer aelodaeth ac ymholiadau llogi

Llyfrgell
Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Maes y Castell
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3ER

E-bost: plays@rwcmd.ac.uk

Ffôn: 029 2039 1331

Er bod yna un unigolyn fel arfer yn ymdrin â cheisiadau CDdC, gallwch siarad ag unrhyw un yn nhîm y Llyfrgell a bydd pawb yn hapus i helpu.

Amseroedd agor

Dylai aelod staff fod ar gael rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener gydol y flwyddyn, i ymdrin ag ymholiadau. Gweler y manylion llawn ar gyfer ein hamseroedd agor ac unrhyw amrywiadau.


Archwilio’r adran