Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Hepgor ffi clyweliad

Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn falch o gynnig y gallu i hepgor ffi clyweliad i ymgeiswyr o gefndiroedd incwm isel.

Hepgor ffi clyweliad i ymgeiswyr o gefndir incwm isel


Cyfeiriwch at y manylion isod. Yn anffodus, ni allwn ad-dalu costau llety na theithio.

Rhaid i ymgeiswyr ar gyfer hepgor ffi clyweliad fod yn breswylydd presennol yn y DU, a dylai’r ymgeisydd a/neu’r aelwyd lle mae gan yr ymgeisydd breswylfa barhaol fod yn derbyn un neu fwy o’r canlynol:

  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Cymhorthdal Incwm
  • Budd-dal Tai
  • Cymorth y Dreth Gyngor (nid gostyngiad person sengl yn unig)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
  • Taliadau Annibyniaeth Personol (PIP)
  • Credyd pensiwn (elfen warantedig yn unig) gyda hysbysiad o ddyfarniad yn dangos incwm gros blynyddol yr aelwyd o lai na £30,000
  • Credyd Treth Gwaith, Credyd Treth Plant neu Gredyd Cynhwysol gyda hysbysiad o ddyfarniad yn dangos incwm gros blynyddol yr aelwyd o lai na £30,000
  • Lwfans gofalwyr amser llawn
  • Mae’r ymgeisydd o dan 18 oed ac mewn gofal preswyl neu ofal maeth

Sut i wneud cais i hepgor ffi clyweliad yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

Mae UCAS Conservatoires yn cyfrifo ac yn casglu ffioedd clyweliad CBCDC pan wneir cais. Er mwyn gwneud cais i hepgor ffi clyweliad, bydd angen i chi:

Dalu’r ffi’r clyweliad yn unol â’r cyfarwyddiadau ar system ymgeisio UCAS Conservatoires ac yna cyflwyno eich cais am ad-daliad gyda thystiolaeth eich bod yn bodloni’r gofyniad/gofynion uchod i gyfeiriad e-bost Mynediadau y Coleg (admissions@rwcmd.ac.uk) dim hwyrach na mis ar ôl eich clyweliad. Os caiff eich cais am ad-daliad ei gymeradwyo, byddwn yn cysylltu â chi i drefnu ad-daliad ffi’r clyweliad.
**Neu**
Gallwch wneud cais i CBCDC hepgor ffi cyn cyflwyno’ch cais. Cyflwynwch eich cais i hepgor ffi gyda thystiolaeth eich bod yn bodloni’r gofyniad/gofynion uchod i gyfeiriad e-bost Mynediadau y Coleg (admissions@rwcmd.ac.uk). Byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau a yw’r hepgoriad wedi’i gymeradwyo. Wrth wneud cais am eich cwrs drwy UCAS Conservatoires byddwch yn cyrraedd sgrin talu am glyweliad. Dewiswch yr opsiwn i dalu’n ddiweddarach drwy anfoneb (cynigir hyn fel opsiwn i’r rheini na allant dalu â cherdyn). Bydd y Coleg yn cadarnhau’r hepgoriad gydag UCAS os ydych yn gymwys, felly gall eich cais fynd yn ei flaen heb dalu.

Sylwer, os na fyddwch yn gwneud cais i hepgor ffi clyweliad, neu os na chymeradwyir eich cais i hepgor ffi gan y Coleg, bydd angen i chi dalu eich ffi cyn y clyweliad. Gall methu â gwneud hynny olygu y bydd eich cais yn cael ei ganslo gan UCAS Conservatoires. Ni fydd y Coleg yn gallu trefnu clyweliad i chi nes y bydd ffi clyweliad wedi’i thalu, neu hyd nes y cytunir i’w hepgor. Sylwer mai dim ond ffi clyweliad y Coleg ei hun y gallwn ei hepgor, sydd ym mhob achos yn golygu y bydd yn rhaid i chi dal dalu ffi ymgeisio UCAS.