Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

MA Rheolaeth yn y Celfyddydau graddedigion

Mae ein hyfforddiant rheolaeth yn y celfyddydau yn arfogi myfyrwyr â’r sgiliau a’r profiad sydd eu hangen arnynt ar gyfer gyrfa yn y sector creadigol. Fan yma, gallwch ddarllen beth mae rhai o'n graddedigion diweddar yn ei wneud nawr.

​Tom Bache

Ers graddio o CBCDC, mae Tom wedi gweithio i ddau sefydliad blaenllaw ym myd Celfyddydau Llundain - Canolfan Southbank a Sefydliad Ffilm Prydain. Ymunodd â Chanolfan Southbank yn 2018 yn ystod ei astudiaethau yn y Coleg, lle bu’n gweithio i amrywiaeth o adrannau gan gynnwys Tocynnau ac Aelodaeth, Cynllunio a Digwyddiadau yn y tîm Rhaglennu Celfyddydau tra hefyd yn cwblhau ei MA o bell.

Wedi hynny symudodd i Sefydliad Ffilm Prydain ac ymuno â’r tîm digwyddiadau fel Cydlynydd Tîm Digwyddiadau. Yn ystod y pandemig daeth digwyddiadau i ben, felly ymunodd â thîm y Gronfa Adfer Diwylliant (CRF) Sefydlodd y Gronfa ar gyfer sinemâu annibynnol ledled Lloegr, yr oedd pandemig COVID-19 wedi tarfu yn anochel ar eu busnesau.

Gan barhau â’i ddiddordeb mewn cynnal sector Arddangos Sinema cynaliadwy ac amrywiol yn y DU, mae Tom yn gweithio ar hyn o bryd yn nhîm Cynulleidfaoedd y DU lle mae’n gweithio’n bennaf ar Rwydwaith Cynulleidfaoedd Ffilm y BFI (BFI FAN) - cydweithrediad rhwng 8 canolfan ffilmiau, a reolir gan sefydliadau a lleoliadau ffilm blaenllaw ledled y DU. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda Chanolfan Ffilm Cymru, lle mae Canolfan Celfyddydau Chapter yng Nghaerdydd yn brif sefydliad.


Isobel Craven

Dechreuodd Isobel ei gyrfa gyda Cherddorfeydd y BBC. Cymerodd ran mewn gwaith prosiect i Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC cyn symud i Fanceinion i weithio ym maes rheoli cerddorfeydd gyda Cherddorfa Ffilharmonig y BBC. Yn 2018, symudodd Isobel yn ôl i Gymru i weithio i Opera Cenedlaethol Cymru ym maes cynllunio artistig gyda phwyslais ar gydgysylltu amserlenni a chynllunio adnoddau.

Ar hyn o bryd, mae Isobel yn Rheolwr Cynllunio Artistig i Opera Cenedlaethol Cymru, yn gyfrifol am amserlennu cynyrchiadau’r cwmni, o ymarferion i berfformiadau a theithiau, ynghyd â gwaith rheoli prosiect ar system meddalwedd cynllunio y cwmni cyfan.

Hope Dowsett

Astudiodd Hope Dowsett ar y cwrs BA (Anrh) Drama ac Astudiaethau Theatr ym Mhrifysgol Aberystwyth rhwng 2011-2014, ac aeth allan i weithio gydag amrywiaeth o sefydliadau celfyddydol gan gynnwys Sefydliad Shakespeare Schools a Small World Theatre cyn cwblhau cwrs Rheolaeth yn y Celfyddydau yn 2019.

Un o uchafbwyntiau ei phrofiad yn y Coleg oedd cwblhau lleoliad diwydiant gydag arbenigwyr blaenllaw ym maes theatr gynhwysol, Theatr Hijinx, yn ei thymor olaf. Aeth ymlaen i weithio gyda Hijinx fel Gweinyddwr Celfyddydau llawrydd rhwng 2019-2021, gan arwain ar waith cyfathrebu digidol y cwmni yn ystod pandemig Covid-19.

Ers mis Medi llynedd, mae wedi gweithio fel Cynhyrchydd Prosiectau Cerddoriaeth i Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru; sy’n cysylltu pobl ifanc o bob rhan o Gymru sydd â photensial cerddorol gyda phrosiectau sydd wedi’u cynllunio i’w grymuso, eu dyrchafu a’u hysbrydoli.

Mae hi’n angerddol dros gynwysoldeb ac ymgysylltu, ac mae’n falch ac yn ffodus i gael swydd sy’n ei galluogi i wella cynrychiolaeth ac amrywiaeth ar draws y sector cerddoriaeth yng Nghymru.



'Mae ffocws galwedigaethol y cwrs yn unigryw, ac mae’r lleoliadau gwaith yn cynnig profiad gwerthfawr yn y diwydiant. Mae’n hanfodol cael yr amser i gael hyfforddiant yn y gwaith, dysgu mwy a chael profiad o sut beth yw gweithio yn y diwydiant, mewn gwahanol feysydd - a dim ond i roi cynnig ar bethau.
Rydych yn cael cyfle i gwrdd â chymaint o bobl anhygoel o bob rhan o’r diwydiant celfyddydau, felly rydych chi eisoes yn dechrau adeiladu’r rhwydwaith hwnnw o gysylltiadau. Pan fyddwch yn gweithio fe allech gwrdd â’r bobl hynny dro ar ôl tro ac felly dyma ddechrau ar adeiladu perthnasoedd, sy’n gyffrous iawn.'
Hope DowsettGraddedigion

Lauren Hill

Astudiodd Lauren Gerddoriaeth ym Mhrifysgol Rhydychen, lle canolbwyntiodd ar gyfansoddi a pherfformio piano yn ogystal â chanu fel ysgolhaig corawl yng Ngholeg Oriel. Arweiniodd diddordeb Lauren mewn trefnu cyngherddau a’i mwynhad o addysg cerddoriaeth a gwaith allgymorth hi i astudio ar gyfer yr MA mewn Rheolaeth yn y Celfyddydau yn CBCDC rhwng 2020-2021.

Roedd uchafbwyntiau’r cyfnod hwn yn cynnwys gweithio gyda’r Gerddorfa Ieuenctid Agored Genedlaethol a Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC i ddatblygu cyfleoedd i gerddorion anabl. Fel rhan o’r cwrs, cwblhaodd Lauren leoliadau proffesiynol gyda Tŷ Cerdd a chystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd.

Ers graddio, mae Lauren wedi dechrau rôl newydd fel Cynorthwyydd Cynhyrchu gyda Britten Sinfonia lle mae wedi mwynhau dechrau amrywiol iawn i’w gyrfa, gan helpu i gynllunio a chyflwyno cyngherddau a phrosiectau Dysgu Creadigol y gerddorfa.


Siân Jenkins

Ar ôl graddio gyda BA mewn Cerddoriaeth o Brifysgol Nottingham yn 2019, dechreuodd Siân astudio ar y cwrs MA Rheolaeth yn y Celfyddydau yn CBCDC yn 2020, gan wneud cyfnodau o leoliadau gwaith yn fewnol a hefyd gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

Symudodd Siân ymlaen i’r diwydiant fel Cynorthwyydd Datblygu yn Theatr Sadler’s Wells, cyn cael ei dyrchafu i fod yn Gydlynydd Partneriaethau a Digwyddiadau Corfforaethol. Yn ei rôl bresennol mae Siân yn cefnogi pob agwedd ar godi arian corfforaethol drwy ddarparu digwyddiadau pwrpasol a buddion eraill y cytunir arnynt i noddwyr corfforaethol a chreu cynigion noddi deniadol i ddenu cefnogaeth.

Ar ôl 9 mis yn Sadler’s Wells, bydd Siân yn symud yn fuan i Gerddorfa Ffilharmonig Llundain (LPO) fel Rheolwr Cysylltiadau Corfforaethol; rôl a fydd yn rhoi heriau ychwanegol iddi gyda chyfle i gael effaith sylweddol ar bortffolio corfforaethol yr LPO drwy greu cynigion creadigol a digwyddiadau ar gyfer noddwyr, gan ddefnyddio cerddorion y gerddorfa.

Yn ôl Sian, roedd y modiwl Codi Arian fel rhan o’r MA Rheolaeth yn y Celfyddydau yn allweddol wrth ddewis ei hopsiyn gyrfa a’r wybodaeth am y diwydiant fel rhan o’r radd MA hefyd yn gymorth sylweddol i gyflymu ei gyrfa, gan ei galluogi i symud ymlaen i lefel rheoli o fewn blwyddyn i gwblhau ei hastudiaethau.


Caitlin Rickard

Cyn cwblhau MA mewn Rheolaeth yn y Celfyddydau yn 2020, astudiodd Caitlin Lenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Caerdydd. Yng ngeiriau Caitlin, roedd y cwrs 'yn gyfle gwych i gwrdd â phobl o’r un anian, pob un â diddordebau amrywiol yn y celfyddydau; roedd y garfan weddol fach yn golygu ei fod yn amgylchedd cefnogol i ddysgu ynddo’.

Fe wnaeth Caitlin fwynhau’n arbennig clywed gan weithwyr proffesiynol y sector a gwnaeth hyn ddatblygu’n sylweddol ei dealltwriaeth o ddiwydiant y celfyddydau, yn enwedig y celfyddydau yng Nghymru. Uchafbwynt arall oedd ei chyfnod lleoliad yn adran marchnata cynulleidfaoedd y Coleg.

Ers graddio, mae Caitlin wedi gweithio yn Hijinx fel gweithiwr cymorth gweinyddol a marchnata llawrydd. Mae Caitlin yn mwynhau gweld y gwaith gwych y mae Hijinx yn ei wneud, datblygu gwybodaeth a sgiliau marchnata newydd, a rhoi’r sgiliau hyn ar waith, marchnata Gŵyl Undod Hijinx a chael gweithio gyda phobl angerddol, creadigol a charedig.

'Roedd cael cyfle i weithio gyda Hijinx ar leoliad fel myfyriwr yn golygu bod y sefydliad yn gwybod am fy ngalluoedd; cefais fy ystyried wedyn am waith cymorth gweinyddol llawrydd oedd ei angen ar y cwmni, sydd ers hynny wedi datblygu’n oriau llawn amser a llawer o brofiad marchnata.'
Caitlin RickardGraddedigion

Scott Skelton

Ar ôl graddio, ymunodd Scott â’r adran farchnata yn Sonia Friedman Productions (SFP) yn 2018. Yno gweithiodd ar dros 30 o gynyrchiadau’r West End a Broadway, gan gynnwys dramâu newydd a enillodd Wobrau Olivier megis The Ferryman, The Inheritance a Leopoldstadt gan Tom Stoppard, a sioeau cerdd mawr fel Mean Girls a Dreamgirls.

Yn 2021, daeth Scott yn Gyfarwyddwr Marchnata a Chyfathrebu yn Hampstead Theatre, gan weithio’n bennaf ar dymor 2021-2022 Hampstead o ddramâu premiere byd. Ym mis Mai 2022, bydd Scott yn dechrau ar swydd Pennaeth Marchnata National Theatre Productions, sy’n gyfrifol am reoli a chynnal bywyd estynedig cynyrchiadau’r National Theatre yn y West End yn Llundain, ar daith ledled y DU, ar Broadway, yn rhyngwladol ac mewn cydweithrediad â phartneriaid cyd-gynhyrchu ledled y byd.


Carys Wehden

Tra’n astudio bu Carys yn gweithio i Theatr na nÓg fel Cynorthwyydd Nawdd llawrydd. Roedd hyn yn ganlyniad i gynnig damcaniaethol am nawdd ar gyfer modiwl Codi Arian ar y cwrs Rheolaeth yn y Celfyddydau a drodd yn bartneriaeth wirioneddol. Noddodd Western Power Distribution sioe gerdd Theatr na nÓg Eye of the Storm yn 2019 ar ôl gwrando ar gynnig Carys.

Ar ôl graddio fel Rheolwr yn y Celfyddydau, daeth Carys yn Gynorthwyydd Cynhyrchu a Gweinyddu llawn amser yn Theatr na nÓg. Dangosodd Carys frwdfrydedd dros ymgysylltu â’r gymuned, mynediad a chynhwysiant, a daeth yn Gydlynydd Ymgysylltu’r cwmni. Datblygodd diddordeb Carys mewn Tegwch ac Amrywiaeth yn ystod ei lleoliad proffesiynol yn Theatr y Sherman a ysbrydolwyd Carys i ganolbwyntio ei gyrfa ar leihau’r rhwystrau sy’n cyfyngu pobl rhag cael mynediad at y celfyddydau.

Mae Carys bellach yn Rheolwr Cyffredinol Dros Dro yn Theatr na nÓg ac yn cydweithio’n agos â’r Cyfarwyddwr Artistig i wireddu gweledigaeth artistig y cwmni trwy redeg gweithrediadau’r cwmni’n effeithiol a chynnal cysylltiadau ariannu strategol gyda rhanddeiliaid allweddol.