Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Sut i ymgeisio - Adeiladu Golygfeydd, BA Rheoli Llwyfan

Popeth sydd angen i chi wybod am wneud cais i astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Sut i ymgeisio

I gael mynediad i gwrs, mae’n rhaid i chi wneud cais drwy UCAS Israddedig. Mae yna ffi untro o £27.50 i ddefnyddio UCAS Israddedig.

Os ydych mewn ysgol neu goleg yn y DU, gallwch gael gair cod gan eich athro neu eich cynghorydd gyrfaoedd er mwyn cofrestru gydag UCAS. Os ydych yn ymgeisydd annibynnol, neu os ydych yn byw y tu allan i’r DU, dylech ddefnyddio system gais ar-lein UCAS.

Cod Sefydliad UCAS Israddedig ar gyfer Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yw R86 ac mae Cod y Cwrs i'w weld ar dudalen y cwrs.

Rydym yn argymell eich bod yn rhoi sylw penodol i’r wybodaeth yr ydych yn ei darparu yn eich datganiad personol ar eich ffurflen gais, er mwyn rhoi darlun mor glir â phosibl i ni o’ch profiad perthnasol a’ch rhesymau dros wneud cais.

Dyddiadau ar gyfer gwneud cais

Ceisiadau’n agor

16 Mai 2023

Ceisiadau’n cau

31 Ionawr 2024 am 18:00 (amser y DU)

Os oes angen help arnoch gyda’ch cais, gallwch gysylltu â Thîm UCAS Israddedig drwy ffonio 0371 468 0 468 (os ydych yn y DU) neu +44 330 3330 230 (os ydych y tu allan i’r DU).